Prawfddarllenwyd y dudalen hon
JOHN BUNYAN.
"A mi yn tramwy trwy anialwch y byd hwn,
daethum i fan yr oedd ffau ynddo; ac ynddo y
gorweddais, a phan y cysgais y breuddwydiais
freuddwyd."
DYNA eiriau cyntaf y breuddwyd rhyfedd sydd, bellach, yn fydadnabyddus, breuddwyd sydd wedi defnynnu cysur a dyddanwch i filoedd,breuddwyd a gyfrifir fel darn o lenyddiaeth ym mysg y ceinion,―breuddwyd John Bunyan.
Y mae breuddwydio, ynddo ei hun, yn beth eithaf cyffredin. Y mae pawb ohonom yn treulio llawer awr ym mro breuddwydion. Yn yr adegau hyny byddwn yn rhodio'n rhydd yng ngwlad hud a lledrith; weithiau yn mwynhau gwynfyd pur, a phryd arall yng nghanol