Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

golygfeydd brawychus ac anaearol. Ond, fel rheol, nid ydyw breuddwydion namyn cysgodau disylwedd a diflanedig. Erbyn deffro bydd y weledigaeth wedi ffoi, ac y mae hanes dynion, ym mhob oes, yn bur debyg i'r eiddo brenhin Babilon gynt,—wedi anghofio y breuddwyd a'i ddehongliad.

Ond y mae ambell freuddwyd yn aros, ac yn dod, mewn rhyw wedd neu gilydd, yn un o ddinasyddion y byd hwn. Cafodd gair ei ddweud yn lled gynnar yn hanes y byd, am un o gymeriadau prydferthaf yr Hen Destament, "Wele y breuddwydiwr yn dyfod." Cafodd ei lefaru mewn gwawd, ond yr oedd ynddo elfen o wirionedd, gwirionedd cudd ar y pryd. Yr hyn a brofai hyny ydoedd y ffaith syml, fod y breuddwydion oll wedi dod i ben. Dyna hanes pob drychfeddwl, pob athrylith, pob arweinydd newydd. Dedfryd gyntaf ei oes am dano ydyw yr eiddo brodyr Joseph,—" Wele y breuddwydiwr." Ac ond odid na theflir ef i'r pydew, ac y gwerthir ef i'r Ismaeliaid. Ond nis gall pydew camwri na charchar atal ei hynt. Fe ddaw cyn bo hir yn llywydd y wlad, a gwelir ei frodyr diffydd yn ymgrymu, fel ysgubau, ger ei fron.

Fel yna yn hollol y bu gyda Breuddwyd Bunyan. Ar y cyntaf, tybid nad oedd yn ddim amgen na chynyrch meddwl amrwd, gwyllt, ac aniwylliedig. Nid oedd yr awdwr wedi cael