manteision dysg. Ni fu yn aelod o unrhyw Brifysgol yn y deyrnas. Nid ydoedd ond eurych o ran ei grefft, a Phiwritan o ran ei olygiadau crefyddol. Pa fodd y medr hwn ddysgeidiaeth? Gallai y Breuddwyd daro chwaeth y werin, ond prin y gellid disgwyl iddo gael ei ddarllen a'i fawrygu gan y penaethiaid llenyddol. Ond erbyn heddyw dyna ydyw ei safle gydnabyddedig. Y mae'r prif feirniaid, o ddyddiau Dr. Johnson i ddyddiau Macaulay, Carlyle, a Froude, wedi cyduno i osod y gwaith a ysgrifenwyd mewn cell fechan yng ngharchar Bedford, yn gyfochrog o ran athrylith greadigol â Choll Gwynfa Milton, ac yn rhestru ei awdwr yn un o feddylwyr disgleiriaf, ffrwythlonaf, yr eilfed-ganrif-ar-bymtheg.
Canrif ryfedd, eithriadol oedd honno; canrif ydoedd yn rhoddi bôd i hanes, ac nid yn byw ar adgofion y gorffennol. Gwelwyd ynddi amseroedd blinion, chwyldroadol; teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun. Clywid sŵn brwydrau a chelanedd, a chafodd llawer maes a dôl eu troi yn faes y gwaed. Ond yn y blynyddau enbyd a chyffrous hyny y rhoddwyd i lawr sylfeini rhyddid gwladol a chrefyddol. Dyna'r pryd yr hauwyd hâd gwerthfawr sydd yn dal i dyfu hyd y dydd hwn. Ac mewn amseroedd o'r fath,—amseroedd enbyd y blynyddau chwyldroadol,—y cynhyrchir ac y meithrinir