Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cymeriadau cryfion, a dynion mawr. Plant haf-ddydd ydyw y blodau a'r helyg, plentyn yr ystorm ydyw y dderwen. Ac yr oedd yr ail ganrif-ar-bymtheg, mewn ystyr arbenig, yn ganrif y derw. Yr oedd cewri ar y ddaear. Ond o fysg y goedwig oll,—coedwig y derw preiffion a thalgryf, dichon mai y tri brenhinbren mwyaf adnabyddus erbyn heddyw ydyw Oliver Cromwell, John Milton, a John Bunyan. Gwasanaethodd un ei oes fel milwr, cadlywydd, a rheolwr gwladol. Daeth y ddau arall yn enwog fel awdwyr,—y naill fel bardd,—bardd Paradwys; a'r llall fel creawdwr y Breuddwyd anfarwol,—" Taith y Pererin."

Ganwyd John Bunyan yn y flwyddyn 1628, 275 o flynyddau yn ol,—mewn annedd ddiaddurn ym mhentref Elstow, ar bwys Bedford. Eurych oedd ei dad, a chafodd yntau ei ddwyn i fyny gyda'r un grefft. Treuliodd foreuddydd ei oes yn eithaf difeddwl ac anystyriol. Yr oedd ystor o nwyf ac ynni yn ei natur, a'i ddewisbethau oedd chwareuon poblogaidd y dydd. "Lle y bydd camp bydd rhemp," ebai dihareb. Lle y byddo meddwl byw, llawn o wefr a dyfais, rhaid iddo gael rhoddi vent i'w adnoddau cyforiog ei hun. Dyna hanes Bunyan yn nyddiau maboed. Yr oedd yn arwr y chwareufa, yn flaenaf ym mhob afiaeth, a'i hoff orchwyl ar y Sabboth oedd ymuno â'i gyfoedion yn y gorchwyl swnfawr o ganu clych y llan.