draw'r byd, hyny ydyw, i Aberdaron. Pur resymol, onide? Dyma gyfle, os mynir, i fyned i eithaf y ddaear, yn ol syniad didwyll ein teidiau ar y mater, a hyny am y swm o swllt a chwe cheiniog! Y mae y fath haelfrydedd yn haeddu cefnogaeth.
Gan ein bod yn cychwyn o ymyl yr orsaf y mae genym obaith da i sicrhau y lle goreu ar dywydd braf, nid amgen, y sedd flaenaf, yn ymyl y gyreidydd. Eisoes y mae y cerbyd yn weddol lawn i'n tyb ni, ond cawn ddysgu peth amgenach yn y man.
Yr ydym yn myned yn urddasol drwy ran o dref Pwllheli—tref aml ei heolydd—ac yn sefyll ar gyfer un o'r gwestai. Yma, mewn gwirionedd, y mae y goach yn cael ei llwytho yn briodol. Cludir iddi bob math o nwyddau a pharseli; coffrau morwyr, ac offer amaethu; amryw o honynt yn perthyn i'r teithwyr, ond y mwyafrif yn cael eu rhoddi dan ofal y gyriedydd i'w gadael mewn lleoedd penodol ar y daith. Y mae yr oll braidd yn cael ei wneyd ar lafar; anfynych y gwelir label ar ddim, ond y mae cof y gyriedydd, meddir, yn ddiarhebol. Peth arall yr ydym yn sylwi arno ydyw ei allu rhyfedd i wneyd lle i bawb. Pan yr ydym yn meddwl hyd sicrwydd fod pob modfedd wedi ei lanw, y mae y gwr da yn rhwym o ddarganfod rhyw gongl o'r newydd. Dywedir fod y rhif ellir gymeryd gyda'r goach hon yn ddyrysbwnc nad oes un dewin fedr ei esbonio i berffeithrwydd. Ac eto prin y clywir neb yn cwyno, fel y gwneir yn y tren,-fod y cerbyd yn rhy lawn. Natur dda sydd yn rheoli yma, a phe byddai i rywun fradychu presenoldeb natur ddrwg, byddai mewn perygl o gael esboniad ymarferol ar athrawiaeth y Cwymp.
Bellach, yr ydym yn cychwyn; yn cychwyn mewn gwirionedd. Wedi enyd o deithio drwy heolydd culion a thrystiog Pwllheli, wele ni ar y brif-ffordd, yn dechreu teimlo ysbrydoliaeth y wlad. Ar y dde y mae planhigfa dan driniaeth ofalus; gardd ydyw hon sydd yn cyflenwi gerddi eraill â choed ffrwythlawn, a llysiau at wasanaeth