dyn. Yn y man, deuwn at y Tollborth, neu yn fwy cywir, yr hyn a fu yn dollborth yn y dyddiau gynt. Yma yr ydym yn troi ar y dde, ac yn cyfeirio am bentref yr Efailnewydd. Mae golwg iraidd a thirf ar bob peth. Nid ydyw y gwres wedi deifio wyneb y maes; nid yw y llwch wedi hacru gwynder blodau'r drain. Yn y cyfwng hwn, cymerwn hamdden i fwrw trem ar ein cyd-deithwyr. Yn ein hymyl y mae y gyriedydd: gwr cyhyrog, tawel, a charedig. Ar yr ochr arall, y mae gwr ieuanc trwsiadus. Y mae efe yn darllen yn ddyfal. Llyfr mewn amlen bapyr sydd ganddo, a'i deitl ydyw Dark Days. Nid oes gyfrif i'w roddi am chwaeth. Mwy dewisol gan y cyfaill hwn. ydyw Dark Days ffug-chwedlaeth, na dalen o lyfr Natur ar un o ddyddiau disglaer mis Mai. Ond yn ffodus, y mae yma frawd arall yn eistedd gerllaw, un ag yr ydym yn ddyledus iddo am lawer o gyfarwyddyd a diddanwch. Ysgolfeistr ydyw wrth ei alwedigaeth, a chanddo ef y mae yr ysgol fwyaf amlwg yn Lleyn. Saif ar ben mynydd y Rhiw, fel rhagflaenydd addysg "uwchraddol" yn Nghymru! O'r tu cefn, y mae nifer,—ni wyddom pa faint-o wŷr dawnus yn trafod helyntion môr a thir; a rhyfedd fel y mae llongau a lloi, freights a ffeiriau, yn cael eu cyd-gymysgu yn eu hymddiddanion. Ond beth bynag a fo y pwnc, y mae pawb yn siriol (ond gwr y Dark Days), a phawb yn teimlo fod taith ar ben y goach, ar ddiwrnod o haf, yn rhywbeth gwynfydedig.
Y mae yn bryd i ni, bellach, ddilyn cwrs y daith. Wedi pasio palas a pharc coediog Bodegroes ar y chwith, yr ydym yn dod i bentref yr Efailnewydd. Dyma yr "orsaf" gyntaf. Yma ceir blaenbrawf o ddawn y gyriedydd gyda'r parseli. Gesyd ei law yng nghanol y pentwr, ac estyna sypynau Ty'nygraig, neu y Weirglodd Lâs, mor ddidrafferth a phe buasai wedi bod yn y siop yn eu prynu. Nid oes dim yn hynod yn yr Efailnewydd, heblaw mai dyma yr ongl lle y mae dwy brif-ffordd Lleyn yn cydgyfarfod. Pe yn teithio i Edeyrn