Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Owain Aran (erthyglau Cymru 1909).djvu/2

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd o'i flaen. Y mae yntau yn synnu nad oedd hyd yn oed sill wedi ei thorri ar y garreg i goffadwriaeth un a ystyriai efe yn wir deilwng o hynny; ac y mae yn gofyn eilwaith a oedd hi yn gwybod am rywun yn y dref yn medru torri llythrenau ar gerrig; a hithau yn ateb yn y fan fod brawd i Owain wrth ei swydd yn gwneyd hynny, ac yn lled awgrymu y buasai yn dda ganddo gael y gwaith. Wedi cael Gruffydd, brawd Owain, i'r lle, y mae'r gŵr dieithr yn cytuno âg ef am ryw swm o arian i dorri y tri gair "Bedd Owain Aran" ar y maen garw, a dyna yr unig gofnod sydd ar y maen yn ei gysylltiad âg Owain. Enw y cymwynaswr a wnaeth y weithred hon ydyw Eifionnydd. Yn flaenorol i hyn nid ydym yn deall fod neb yn gofalu am wybod dim am argel wely Aran, na neb yn or-awyddus i wybod pa le y claddwyd ef. Yn wir, yr wyf wedi bod yn holi llawer o'i gyfoed, a'r rhai a wyddent lawer am dano pan yn fyw, nad ydynt yn cofio ei gladdedigaeth nac ymha fynwent y claddwyd ef. Gallesid meddwl y buasai marwolaeth a chynhebrwng un oedd mor neillduol o athrylithgar wedi gosod nod arbennig ar gof y rhai a'i hadwaenent mor dda, ac a feddyliant yn awr —mor uchel o'i alluoedd, ond nid felly y mae. Y mae ei Exodus mor dywyll i'w gydnabyddion ag oedd ei Genesis iddynt yn ei faboed. Priodol iawn y gallasai Aran druan ofyn yn iaith bardd anhysbys eto i mi,―

"Tra'r llaw hon yn pydru, fydd son am fy nghanu?
Fydd gwladwr all nodi fy llety'n y Llan,
Neu ddeigryn i'w golli os clywir fy enwi
Cydrhwng yr Eryri a'r Aran?"

Yr oedd rhywbeth cyfriniol ym mywyd Owain yn blentyn ac yn llanc, yn ol pob tystiolaeth wyf wedi gael. Nid oedd ei gyfoedion yn hollol ddall i'r ffaith ei fod yn meddu ar nodweddion arbennig nad oeddynt hwy yn gyfranog o honynt yn eu hafiaeth diniwed, ac feallai, ar brydiau, direidus. "Toeddan' ni ddim yn ei gymyd o fel hogia erill, rwsut," meddai un wrthyf oedd yn byw heb fod ond ychydig o lathenni o'i gartref.

Os mai yng ngro afon Aran y byddai y plant yn ymryson lluchio cerrig at rywbeth neu gilydd, codi pont o fân gerygos ac adeiladu melin, a threfnu rhôd i droi, drwy rym rhidys o ddwfr, y byddai Owain. Bryd arall, byddai wedi dyfeisio rhyw ryfeddod i synnu ei gyfoedion mewn cyfeiriad gwahanol.

Mab ydoedd i Lewis a Chati Roberts, ac yr oedd yn un o naw o blant. Saer coed, crogwr clychau, torrwr ar gerrig beddau, trwsiwr dodrefn coed a phres ac alcan a haearn, un yn paentio a phapyro, gwerthu clocsiau, a phob rhyw gelf, ydoedd ei dad. Dyn bychan cyflym-droed, ac yn meddu ar ddawn eithriadol, i wylo, oedd Lewis Roberts. Yr oedd yn gallu ar bob gwaith, ac yn dysgu ei blant yn y gwahanol ganghennau hyn, ac yn ddiddadl yr oeddynt oll yn eithriadol yn nestlusrwydd y gwahanol oruchwylion yr ymgymerent â hwynt. Am Cati Roberts, yr oedd hithau yn meddu ar ryw fath o alluoedd nad ydynt yn gyffredin iawn i wragedd o'i sefyllfa hi. Ar adegau deuai tyrfaoedd o German Bands ar draws y wlad, ac yn eu tro ymwelent â Dolgellau, a byddai eu hymddangosiad yn arwydd digamsyniol "fod yr haf yn agos." Lletyent yn ddieithriad yn nhy Lewis a Chati Roberts, ac yn ei mynych gyfathrach â hwynt yr oedd yr hen wraig wedi pigo digon o Ellmyneg i allu deall eu hanghenion, ac i ddal, am ryw hyd, ymgom gyffredin â hwy. Nid wyf yn deall fod aelwyd Lewis Robert yn enwog ar gyfrif unrhyw duedd a meithriniad at lenyddiaeth na barddas; ond cafodd celfau, yn y gwahanol gyfeiriadau a nodais, sylw mawr gan y plant, nid o gariad atynt fel y cyfryw, ond fel moddion i gadw y cefn yn glyd, a'r ffrynt yn weddol lawn. Hefyd yr oeddynt oll yn bencampwyr mewn chwibanu, tynnu darluniau, a rhyw fân driciau sleight of hand. Yr oedd Owain yn fwy celfydd na'r un o honynt yn y cyfeiriadau hyn, gallai daflu ei lais, a chwareu y fife,—anhebgorion i un oedd wedi argraffu ar feddyliau ei gyfoedion ei fod yn amgenach o ran ei alluoedd na hwy. Aeth un diwrnod i un o hen dai y Penbryn Glas, yr hwn oedd ar y pryd yn amddifad o drigiannydd, ac wrth edrych o'i gwmpas canfu lewyrchiad pelydryn heulog yn llathru ar ryw gornel dywyll o'r ystafell. Y mae ar unwaith yn gweled posibilrwydd rhyw ddyfais fach o'i eiddo ei hun, ac y mae yn ceisio darnau o wydrau toredig hen looking glass ac yn eu cyfleu yn y fath fodd fel ag i adlewyrchu y golygfeydd oddiallan ar bapyr gwyn oedd wedi ei osod mewn bocs oddifewn, ac yn y fan dyna Benbryn Glas wedi ei droi yn camera obscura sefydlog a gwahoddai ei gyfoedion bychain yno