weled mulod y ffatrioedd, a dynion yn mynd a dod ar hyd ffordd y Wenallt, a hwythau yn y siamber gauedig!
Nid ydym yn gwybod pa faint o addysg fydol na chrefyddol a gafodd. Ond y mae un peth yn eithaf eglur, na bu heb arddangos gwybodaeth helaeth ac eang cyn bod yn bymtheg oed. A dyma ni yn awr wedi dyfod at anhawsder ag sydd o bryd i bryd wedi, ac yn bod, yn un o ddyrysbynciau mawr meddylegwyr pob oes. Mae i'r naill fel y llall eu hagweddau a'u gwahaniaethau. Beth sydd yn cyfrif am yr hyn a elwir yn prodigies yn y byd meddyliol ac anianyddol? Cymerer Mozart, Kubelik, Mischa Elman, yn engreifftiau o rai wedi ennill llwyr feistrolaeth ar deithi uchaf cerddoriaeth o bump i wyth a deg oed? Mae llawer o rai eraill y gallasem eu henwi, a enwogasant eu hunain cyn dyfod i oedran a alwn ni yn gyfrifol, mewn cyfeiriadau eraill. Neu, gadewch i ni ddyfod yn nes eto,-beth sydd yn cyfrif am alluoedd sydd yn dadblygu i dwf mor eithriadol o ddisglair, pryd y mae'r am- gylchedd yn hollol anfanteisiol i'r tyfiant? Onid oedd hyn yn dyrysu rabbiniaid Palestina pan yn dystion o alluoedd proffwyd ieuanc a thlawd oedd yn synnu y wlad â'i wybodaeth a'i ddysg, a'r awdurdod â pha un y llefarai nes iddynt orfod gofyn gyda syndod diobaith,—Pa fodd y medr hwn ddysgeidiaeth ac yntau heb ddysgu?" Cofier mai gofyn y cwestiwn yr oeddynt o safbwynt meddyleg (phsychology) ac heb freuddwydio am ddwyfoldeb y proffwyd. Yr oeddynt yn gwadu hynny. Y mae llawer wedi ceisio rhoi enw ar y peth hwn, gan nad beth ydyw. Talent, medd rhai, athrylith medd eraill, awen medd y lleill. Ond beth yw y naill neu y llall, neu yr oll? Dywed yr hen Sam. Johnson mai rhodd natur yw talent— "gift of nature, and that the word is synonomous with quality, as talent of gold." Eraill a ddywedant mai defnyddiad medrus o'r hyn sydd yn bod yw talent, hynny yw, gwrteithiad gallu cynhennid o eiddo y meddwl. Athrylith medd Carlyle yw "Immense capacity of taking pains," gallu enfawr i gymeryd trafferth. Nage medd Johnson,—"Disposition of nature by which anyone is qualified for some peculiar employment ―tueddiad neu ogwyddiad anian drwy ba un y cyfaddasir un at unrhyw waith arbennig. Athrylith, yn ol un arall, yw y gallu i greu defnyddiau; ac awen yw yr hyn sydd yn rhoddi brwdfrydedd yn yr oll. A dyma ni yn Owain Aran wyneb yn wyneb a'r broblem yma—llanc, nad oedd dim yn yr amgylchiadau o dan ba rai y magwyd ef yn rhoddi un tueddiad at lenyddiaeth yn ei ffurf uchaf, nac, yn wir, mewn unrhyw ffurf, nac at farddoniaeth fel gwyddor, nac at gerddoriaeth ychwaith fel y cyfryw; ac eto cawn ei fod, fel yr awgrymasom, yn meddu ar ddirnadaeth glir a gwybodaeth helaeth o'r naill a'r llall; yn feistr ar y Gymraeg yn ei gwedd fwyaf clasurol, yn ei hieithwedd a'i gramadeg, yn feddiannydd ei theithi yn ei harddull a'i cheinder. Meistrolodd hefyd y pedwar mesur ar hugain cerdd tafawd yn eu holl gyfrinion; yr oedd yn rhifyddwr cyflym, ac yn gerddor gwych. Gallai gynghaneddu, darllen, ac esbonio i'w ddisgyblion holl ddirgelion cerdd a thant; a gellid ychwanegu ei fod yn alluog iawn mewn cerfio ar faen a delid, yn ogystal ag arlunio mewn du a gwyn. Ac eto nid oes gennym wybodaeth ei fod wedi ymboeni rhyw lawer er ennill y tir a wnaeth; yn wir yr oedd ei amgylchedd (environments) y fath fel y mae yn hawdd credu nas gallai ei fod yn cael unrhyw symbyliad, y tu faes iddo ei hun, i ym- berffeithio nac ychwaith i ymhyfforddi. Ond waeth beth sydd yn cyfrif am ei alluoedd, dangosodd yn ieuanc iawn ei fod yn meddu ar feddwl o uwch gradd na bechgyn yn gyffredin yn yr oedran cynnar o ddeuddeg i bymtheg oed.
Ganwyd Owain Aran yn y flwyddyn 1836, mewn ty ar lan yr afon Aran, y nesaf ond un i'r Fronheulog. Nid efe oedd yr hynaf na'r ieuengaf, o'r plant; ond cymerodd ei le yn drydydd yn y rhestr o naw; ac y mae digon wedi ei awgrymu gennym yn barod i ddangos yr amgylchedd ymha un y dygwyd ef i fyny yn deuluol. 'Doedd manteision addysg Dolgellau yr adeg honno hanner mor loew ag ydynt heddyw. Yr oedd yr Ysgol Rad yn bod, ond nis gallwn gael allan fod Owain wedi bod ynddi. Yr unig ysgol y bu yn ei mynychu oedd yr Ysgol Genedlaethol, am ba hyd nis gwyddom; ond clywsom ar awdurdod dda nad oedd ganddo ddillad priodol i fyned yno pan oedd Arolygydd y Llywodraeth yn arholi y plant yno un tro. Pa fodd bynnag, ni chafodd un cynorthwy i'w wybodaeth o'r iaith Gymraeg yn yr ysgol honno, oherwydd yr oedd defnyddio gair Cymraeg ynddi hi yn gyfystyr â'r