pechod nad oedd maddeuant am dano, ond cospedigaeth—heb iawn.
Pa bryd y dechreuodd Aran gymeryd dyddordeb mewn barddoniaeth a llenyddiaeth, nid wyf yn gwybod; nac ychwaith trwy ba gyfrwng y daeth i feddu ar y ddirnadaeth a'r wybodaeth helaeth o reolau cynganedd gaeth. Yr oedd er yn ieuanc iawn yn hynod barod ar ei dafod, ac yr oedd sydynrwydd ei gwestiynau a'i atebion cynghaneddol yn wybyddus i bawb. Dywed y rhai oedd yn ei adnabod yn dda pan yn hogyn ei fod yn holi neu yn ateb cwestiwn, bob amser bron, ar fath o gynghanedd. Yr oedd clec y gydsain iddo mor hawdd ag anadlu, ac yr oedd y cyflymder a'r sydynrwydd hwnnw sydd yn naturiol i rai o ardymer nwyfus a chwareus yn rhoddi min ar ei ymadrodd. Er engraifft, un bore Sul gwelai cyfoed ef yn myned a llian ar ei fraich a chlap o sebon yn ei law at afon Aran, ac y mae yn gofyn iddo, "Lle wyt ti'n myn'd, Owan?" "I dorri Sabboth â dŵr a sebon," meddai yntau, yn hollol ddifraw. Bryd arall gwelai yr hen Ddafydd Tomos y Llwyn (Dewi Wnion) ef yn llifio cord o goed i Griffith Jones y pobty, ac y mae Dewi yn gofyn, "Be 'ti 'neyd 'nei di dd'eyd ddyn?" "O!" meddai Owain, "croes-gytio er crasu i Gutyn". Dro arall, yr oedd dau gi yn ymladd ar un o lanerchau y dref yma, ac ar achlysur felly y mae tipyn o helynt, nid yn unig rhwng y cwn, ond rhwng pobl yn aml. Yr oedd yn digwydd fod Bardd Dochan yn gwylio yr ymladdfa, ac Owain heb fod ymhell, a dyma'r hen fardd yn dweyd, "Cŵn annwn yn cynenu." Ie," meddai Owain, ond un go dost yw'r hen gi du."
Gallai roi colyn ar flaen rhai o'i linellau a barai i'r sawl a'i haeddai gilio i'r cysgodion yn lled fuan. Un noson pan yr oedd Owain yn dyddori ei gyfeillion â'i ddywediadau ffraeth, pwy ddaeth i roi ei big i fewn ond John Evans (Swallow), y criwr trefol, yr hwn a ystyriai ei hun yn rhywun ac felly yr oedd—a gwelai mai Owain oedd wrthi, a gwnaeth linell gynghaneddol a gofynnodd, mewn tipyn o wawd, gallesid meddwl,-
"Ai Aran sydd yma'n roario?"
Teimlodd Owain fod John Evans yn intrudio, ac atebodd,―
"O'r Aran i'r Eryri
Oes un â cheg fwy na chwi?"
Un tro tua gwyliau Nadolig daeth dieithrddyn o Sais at Owain, a gwialen pysgota ganddo, ac y mae yn gofyn iddo a oedd yna bysgod yn yr afon. Y mae Owain yn edrych dipyn yn syn fod gŵr yr enwair yn meddwl am fynd i bysgota ym mis Rhagfyr, ac y mae yn ei ateb,-"O! yes, any amount; but,—
"Fishing is not in fashion;—in winter,
'Tis wanted but mutton;
Reel your line, leave rod alone,
In summer you'll have salmon.
Yr oedd y parodrwydd i ateb mewn cynghanedd yn dal yn gryf ynddo hyd y diwedd. Pan yr oedd ef a Blodeuyn Mawrth, sef Mr. Robert Pugh, Helygog, yr hwn oedd yn ddisgybl i Owain tra ym Mryn Coedifor, yn dychwelyd o un o dai ffermydd Rhyd y Main, y maent yn dod at ffos, a 'doedd dim ond ei neidio er mynd i'r ochr arall iddi. Y mae Mr. Pugh yn cymeryd wib ac yn dweyd, "Wyf neid- iwr ofnadwy." Dyma Owain ar ei ol fel ergyd a neidiodd ymhellach a dywedodd, "Ar y maes mae neidiwr mwy."
Yr oedd hefyd yn llawn o'r hyn a elwir yn sense of the ridiculous. Yr oedd yn well cerfiwr ar gerrig beddau na'i dad ac na'i frawd, ac un diwrnod, tra wrth y gwaith hwnnw ym mynwent Eglwys Dolgellau, y mae ei sylw yn cael ei dynu at bedair llinell oedd yn nodweddiadol iawn o lenyddiaeth cerrig beddau; a chyda llaw credaf fod yma faes dyddorol iawn fel astudiaeth yn llenyddiaeth y beddau. Os am wybod y gwir, yr holl wir, a dim ond y gwir am gymeriad llawer un sydd yn huno o dan dywyrch ein mynwentydd, peidiwch byth a chredu cyfrinach eu bedd-argraffiadau. Ni bydd i Ananias a Saphira byth farw tra y bydd ambell i garreg fedd yn aros. Ond am y rhigwm y galwyd sylw Owain ato, gallai fod yn ddigon gonest, ond bernwch chwi,—
"Remember me as you pass by,
As you are now, so once was I;
As I am now, so you will be,
Prepare yourself to follow me."
'Doedd Owain ddim yn siwr o derfyn taith y llefarwr marwol, ac y mae yn ysgrifennu yn ddwfn ar y gistfaen,—
"To follow you I'm not content,
Unless I know the way you went!"
Y mae yr argraff bron a gwisgo i ffwrdd, ond dengys yn amlwg fod Owain yn meddu ar natur hawdd ei gogleisio.