Byddai Owain yn myned ar ei dro yn hogyn i swyddfa y Dysgedydd a'r Cronicl bach, ac un tro gwelodd englyn o waith yr hen fardd Meurig Ebrill yn cael ei gy— sodi. Testyn yr englyn ydoedd sen i gacynen oedd wedi pigo yr hen fardd tra yn ei wely. Fel y mae rhai yn cofio, daeth rhyw ffit ar Feurig i fynd i'w wely ryw ddiwrnod, ac yno y bu am flynyddoedd heb fod dim afiechyd organaidd yn ei boeni, rhywbeth rhwng monni ac iselder ysbryd. Ond sut bynnag, cafodd y gacynen hyd iddo, a gwnaeth yn weithredol yr hyn a faentumid yn lled gyffredin gan fodau uwch yng ngraddfa bodolaeth oedd ei angen ar yr hen fardd, sef ei bigo yn lled arw iddo ddod o'i wely. Ac fel hyn y dolefai Meurig ei gŵyn yn yr englyn,―
"Ffyrnig, wenwynig wenynen,—freith wyllt
A frathodd fy nhalcen;
Chwyddodd, amhurodd fy mhen,—
Mae 'nau olwg mewn niwlen!"
Ysgrifennodd Owain englyn ar y foment, yn diolch i'r wenynen am ei chymwynas, ac yn deisebu arni i orffen cyflawni ei gwaith rhagorol ar yr hen fardd, a dyma yr englyn, yr hwn a gyhoeddwyd yn y rhifyn dilynol o'r Cronicl,—
"Wenynen gymen, ddi-gas—eto dos
At y dyn anaddas;
Piga, niweidia'r hen was,
Ac ei anfon o'i gynfas."
Ni wyddai Meurig pwy oedd yr awdwr am mai Pleidiwr y Wenynen roddodd Owain fel ffugenw, ond ffromodd yr hen wr yn aruthr, a chafodd allan rywfodd mai Aran oedd yr awdwr, a gofynnodd i Owen ei ŵyr, sef Mr. Owen Jones y Crydd, a allasai e' roi cweir i Owain Aran, ac os gallai iddo fo ei rhoddi.
Yn 1851 cawn fod Owain wedi dyfod i amlygrwydd neillduol fel englynydd drwy iddo yn y flwyddyn honno fyned i Eisteddfod Porthmadog, yr hon Eisteddfod a gynhelid am dri diwrnod. Nid oedd ond llanc pymtheg oed yr adeg honno. Pa fodd yr aeth nis gwyddom,—pa un ai cerdded ynte trafaelio ar step y goitsh fawr a redai y pryd hynny rhwng Dolgellau a Chaernarfon. Gwyddom bron i sicrwydd nad oedd ganddo, druan, foddion i dalu y fare fel teithydd arferol. Sut bynnag, cyrhaeddodd yno, ac yn fuan deallodd fod gwobr am englynion difyfyr yn cael eu cynnyg.
Y ddau ddiwrnod cyntaf englynion i lywyddion am y dydd a roddid yn destynau; ond gwelodd y swyddogion fod perygl yn hynny erbyn y trydydd diwrnod, gan y rhoddai hynny i'r cystadleuwyr bob lle i gasglu mai englyn i lywydd y dydd fyddai y testyn y trydydd niwrnod, ac y maent yn penderfynu rhoddi testyn newydd, a hwnnw oedd "Llwch y Fynwent." Clywodd Owain am y gystadleuaeth, ac anfonodd englyn sydd erbyn hyn wedi glynu ar gof gwerin fel un o'r englynion goreu o ran cynghanedd (euphony), hyseinedd, a naturioldeb, er feallai nad yw ei dduwinyddiaeth yn hollol orthodocsaidd yn ei linell olaf. Ymgeisiodd llu o feirdd gorchestol, a thynned oedd y gystadleuaeth fel y gofynnodd y bardd o Gefn y Meusydd, yr hwn oedd y beirniad, am gynorthwy Caledfryn i farnu y goreu o'r goreuon. Ac i Aran y dyfarnwyd y wobr, yr hwn a ymddangosai yn wylaidd a thlodaidd yr olwg tra yn ymofyn y wobr. Ac yn y fan yma nis gallwn lai na sylwi ar coincidence rhyfedd mewn cysylltiad ag Eisteddfod Madog. Ymhen ugain mlynedd wedi hyn cafwyd cadeir— fardd buddugol yn yr Eisteddfod honno ym mherson gwr ieuanc llawn mor swil a diymhongar, sef Huw Puw (Clynog), un o ddisgyblion cyntaf Owain Aran, a phan y dywedodd Clynog mai un o Ryd y Main ydoedd, i'r hen anwylfardd Cynddelw waeddi dros y lle,—"Dim rhyfedd wir; y mae yna chwarel o feirdd yn Rhyd y Main." Ac Owain Aran oedd agorwr y chwarel hefyd. Ond dyma englyn Aran yn gywir i "Lwch y Fynwent,"——
"Y cnwd hwn yw cnawd dynol—pwy edrych!
Wedi pydru'n hollol;
Ond drwy fedr Un Anfeidrol
Ei gnwd wneir yn gnawd yn ol."
Amheuodd un o'r colledigion nad Owain ac efe ond hogyn pymtheg oed, llwydaidd ei olwg, oedd awdwr yr englyn. Gofynnodd iddo roddi engraifft o'i allu, ac y mae yn rhoi testyn iddo, ac im tyb i, y mae y testyn yn index go lew i gymeriad yr amheuwr. "Yr Asyn" ydoedd y testyn. A dyma bortread o'r hirglust yn ol Aran,—
Hen ruswr yw yr asyn—aneisior,
Gwrthnysig a chyndyn;
Hwn wna ffwl o fonau ffyn:
Pan 'nada pwy nai hedwyn."
Dywed un arall wrthyf na roddwyd yr un testyn i Owain, ond rhoddi herr iddo