wneyd englyn ar rywbeth, a dyma Owain yn dweyd hwn heb nac atalnod gwynt,―
"Heddyw e gawn oll dê ddigon a—chig
Moch ac wyau gyda
Menyn doraeth ar fara
Twymn, oni bydd o'n fara da?"
Nid wyf yn credu fod llwyddiant Owain yn Eisteddfod Madog wedi troi ei ben, fel y gwna ambell fuddugoliaeth swllt neu ddeunaw mewn cyfarfod llenyddol effeithio ar rai o honom. Gallesid tybio y buasai bellach yn ymgynnyg am bob gwobr am englyn yng nghyfarfodydd llenyddol ac eisteddfodau Cymru, ac y buasai yn cerdded iddynt fel pedlar barddonol, yr un fath ag y gwna pedleriaid cerddorol sydd ar hyd a lled y wlad yn awr, yn cynnyg ar bob rhyw challenge solo, am eu bod wedi digwydd ennill pisyn deuswllt yn y fan a'r fan am her unawd agored i'r byd. Ond na; ni roddodd Owain ei athrylith er arian, na'i gân er delwau bathedig. Nid wyf yn gwybod ei fod wedi anfon nemawr o'i gyfansoddiadau i gystadleuaeth erioed, ac eithrio feallai ddwywaith neu dair ar ol Eisteddfod Madog, ac unwaith o'r nifer yna yr oedd wedi anfon ei gynyrchion i law yn rhy ddiweddar. Yr achlysur hwnnw oedd pan y cynygid gwobr yn Eisteddfod Corris tua'r flwyddyn 1856 neu 1857 am dri englyn i'r "Chwarelwr." A dyma hwy,―
"O cheir hwyl, i'r chwarelwr—y canaf,
Dacw hynod weithiwr:
Onid yw gamp nodi gŵr,
Mewn teiroes, mwy anturiwr?
"Efe ar lithrig ddirfawr lethredd―craig,
Neu crogi'n ei dannedd,
Bwyai dyllau 'mhob dullwedd,
O hyd mewn bywyd—min bedd.
"Ond rhag corwynt, a rhew garwaf,—rhag gwlaw,
Rhag gwlyb dywydd gaeaf,
Uwch fy mhen cysgodlen caf—
Mân lechau, mwy ni wlychaf."
Yr achlysur arall oedd pan y cynhygiai y diweddar archlenor, Mr. Robert Oliver Rees, wobr o Weithiau Dafydd Ionawr am yr englyn goreu i'w ddodi ar ei feddfaen ym mynwent newydd Eglwys Dolgellau. Yr oedd hyn yn 1851, sef y flwyddyn yr enillodd Owain yn Eisteddfod Madog, a chofier mai pymtheg oed ydoedd. Daeth cant namyn chwech o englynion i law, ac ymgeisiodd beirdd gwychaf Cymru. Mor dynn eto oedd y gystadleuaeth fel y gofynnodd Eben Fardd i Ellis Owen Cefn y Meusydd, yr hwn fel y cofiwch, oedd un o feirniaid Owain ym Mhorthmadog pan y gofynnodd am gynorthwy Caledfryn i dorri y ddadl ar bennill "Llwch. y Fynwent,i benderfynu y goreu. Dyfarnwyd englyn Owain Aran yn fuddugol o'r 94 a anfonwyd i law, a dyma fe,—
"I'r Anfeidrol Ior yn fydrydd―y bu
Gyda'i bêr awenydd;
Ei holl waith diwall ieithydd,―
O'i ol yn anfarwol fydd."
Trueni garw na ddodasid yr englyn ar y pyramid; paham, nid wyf yn gwybod.
Y tro arall y mae gennym sicrwydd iddo ymgeisio mewn cystadleuaeth oedd mewn cyfarfod llenyddol yn y Brithdir, pryd y cynhygid gwobr am englyn i'r "Gath," ac er i lu o feirdd gorchestol gynnyg aeth y wobr a'r clod i Aran. Dyma hwnnw,—
"Un lemdroed, llawn cyflymdra—ydyw'r gath,
A drwg iawn am ladrata;
Gwedi nos dal llygod wna,
Un o'i phawen ni ffoa."
Yr englyn argraffedig cyntaf o'i eiddo wyf wedi dyfod ar ei draws yw hwnnw ar y "Ddiod Feddwol" a gyhoeddwyd yn y Cronicl bach am Ionawr, 1851, yr hwn sydd fel y canlyn,—
"Llyma fîr llawn o fariaeth,—a diod
Andwyol i'r archwaeth;
Dwfr i ddyn, neu loew—wyn laeth,
Beunydd sydd well wlybaniaeth."
Go dda i fachgen pymtheg oed, onide? Dyma englyn difyfyr a gyfansoddodd pan welodd sign ger Llyn Talyllyn yn hysbysu yn Saesneg pa bryd i ddechreu pysgota a pha bryd i roi y goreu i hynny,—
"Ni chaniateir genweiriaw—i chwi
Cyn chwech, pan yn dyddiaw,
A byddaf i'ch rhybuddiaw
Hyd y nos pan wedi naw."