Tudalen:Patrymau Gwlad.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

HARDDACH YW'R CYFAN ERDDYNT

ER y wawrddydd gynt pan ffrydiai
Dafydd hoyw ei gywydd gwin,
Tecach yw rhianedd Cymru
A melysach yw eu min;
Cynnull swyn y byd
Y mae'r bardd o hyd;
Y mae'r llwybrau i gyd lle cerddo
Yn fil, mwyach, harddach erddo.

Hen fynyddoedd moel a diffaith,
Mor flodeuog ydynt mwy
Er i wanwyn yr awenau
Ddringo eu holeddau hwy;
Bwriant inni'n awr
Hudliw hwyr a gwawr;
Teg eu gwrid am weld o Gymru
Awen Ceiriog yn eu caru.

Er yr hwyrnos pan ganfyddai
Islwyn heuliau fyrdd uwchben
Yn oleudai angorfaoedd
Hwnt i ddyfnfor glas y nen;
Er i sêr y nef
Danio'i enaid ef
I'n golygon pŵl daeth pasiant
Nêr i gynnau'n aur ogoniant.