Tudalen:Patrymau Gwlad.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

GALW Y MOR

ETO'N ôl i Geredigion
Arw ei thir mewn hiraeth af,
Y fro draw lle ffynna pigion
Gwaun a rhos, a gwenau'r haf.
A phan safwyf gynt lle sefais
Egyr gorwel ddirgel ddôr;
Mwyn yw cofio'r man y cefais
Gyntaf olwg ar y môr,
Ar y môr!

Yno yr hedaf gan hudoled.
Aur a phorffor pen y bryn,
Ha' hir-felyn, môr fioled,
Heulog wawr ar hwyliau gwyn;
Lle gwna grugieir loches dawel,
Lle gwna gwenyn gwyllt eu stôr,
Y dragywydd droeog awel
Sonia mwy am swyn y môr!
Swyn y môr!

Pan wasgaro dwylo Hefin
Flodau fyrdd o las y nef
Yno af i'm hen gynefin
Eto draw o drwst y dref.
Fwyned ydyw fin diwedydd!
Weithion fry uwch canu côr
Y mil adar, mawl ehedydd
Glywa' i mwy, a galw y môr,
Galw y môr!