Tudalen:Patrymau Gwlad.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

DIC Y PYSGOTWR

(O Saesneg A. G. Prys-Jones)

MAE Dic yn fil hapusach
Na'r sgweier coch ei rudd,
Yn ddoethach na'r hen sgolor
Sy'n darllen nos a dydd.
Mae'r naill yn heliwr cadarn
A'r llall yn hyddysg ŵr,
Ond, Dic yr hen bysgotwr
Sy'n deall iaith y dŵr.

Mae Dic yr hen bysgotwr
 rhywbeth yn ei drem
A ddaw o wybren erwin
Ac amal awel lem.
Mae'n ddigon tlawd ei olwg
Pan ddelo adre'r hwyr,
Ond, mae'n y byd gyfrinach
Nad oes ond Dic a'i gŵyr.

Mi rown gryn swm o arian
Am gerdd a gân pan ddêl
Fin hwyr wrth lan yr afon
Ar hyd y llwybrau cêl;
A rhown yn rhwydd swm arall
Am weld a wêl efe
Rhwng drysi, hesg a phrysgwydd
Wrth ddychwel tua thre'.