Tudalen:Patrymau Gwlad.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ger llynnoedd llwyd Paradwys
Tuhwnt i'r seren ddydd,
Lle mae hyfrydwch addas
Ar gyfair pawb y sydd,
Caf glywed, os teilyngaf,
A gweld, ryw ddydd a ddaw,
Dic yr hen bysgotwr
Yn canu yn y glaw.

SERCH AC ADFAIL

CYFYD gorllanw y Mai yn wyn dros gen
Y garnedd, a thyr ewyn llygaid dydd
Ar falltod chwâl y meini hanner cudd.
Cyd-eistedd dau dan gysgod draenen wen
Heddiw a blyg lle gynt y codai pen
Y castell balch; yn nhangnef y cyhûdd
Pêr eu cymundeb, rudd wrth wridog rudd,
Heb gwmwl heddiw i anurddo'u nen.

Ar sail y tyrau tal a'r muriau mawr
Bu ton ar waedlyd don yn rhuthro'n erch
A hyrddio'r godidowgrwydd gwych i lawr.
Aed Hanes heibio i'r adfail drist yn awr
A'i hofer druth; traethu cadernid serch
Diddarfod mae mudandod mab a merch.