Tudalen:Patrymau Gwlad.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MARW BARDD-FILWR

(R.B. 1915)

PYNCIODD yn gynnar orfoledd rhandir
Ei dadau, a chwerthin aur ei lli;
Hedodd ei wawrgan drwy bum cyfandir
A chlybu'r seithfor ei hatsain hi.

Y neb a ganfu ei bryd ysblennydd,
Ei laeswallt euraid, a'i osgo hardd,
A wybu degwch a nwyf dihenydd
Apolo ieuanc yn rhodio'r ardd.

Canodd, ac wybren ei wlad yn duo,
Er darllen ohono ei olaf awr
Ar ael y dynged o draw yn rhuo
Ei gwys yn groch i'r Alanas Fawr.

Difarwy delaid gerdd a ganodd,
Er cuddio o'r meindir ei ddeufin lân; .
Ond o'r distawrwydd sy oddi tanodd.
Mwyach ni flamia'r berffaith gân.

Cwsg yn ynys y main a'r crisial,
Hun ym mhersawr ei mynwes wen,
A'r don win-dywyll o'i ddeutu'n sisial.
A siffrwd olewydd uwch ei ben.