Tudalen:Patrymau Gwlad.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

O lannau Helas a'i ban gopäon
Anadla enaid ei awen ef
Ar groes ei feddrod, a chwyth y chwäon
O dir arwriaeth Caerdroea dref.

Erys ei gân yn y gwydd a'r blodau
A golud melodaidd hwyr a gwawr,
Erys ym mawredd annirnad nodau
Peroriaeth gyflawn y Pencerdd Mawr.

DIWRNOD GŴYL

TYR tonnau haf yn ewyn ar y drain
A chanu yn y perthi; dros y tir
Ymdaena tegwch pêr; 'does liw na sain
Yn fefl ar burdeb y ffurfiafen glir./
Daw cerdd y gog o'r llwyn ar lethr y bryn;
Pyncia ehedydd anwel uwch fy mhen;
Gwennol a ymlid wennol dros y llyn
A fflachia fynwes ar ôl mynwes wen.

Ddoe gwyddwn am ofalon fil a mwy,
Yfory'n ddiau eraill im a ddaw,
Heddiw dan chwerthin haul anghofiaf hwy,
A natur yn ei hafiaith ar bob llaw;
Ni thraidd helbulon bywyd ataf drwy
Ragfuriau oesol ceyrydd Epynt draw.