Tudalen:Patrymau Gwlad.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CERDD GOBAITH

DAW pan yw drycin â'i dyrnod gadarnaf
Ar gadres y goedwig a llengoedd y lli';
Daw drwy gri hirnos, a daw pan fo duaf
A garwaf ei graen gan gymylau di-ri'.

Daw pan fo byd a fu siriol yn sorri,
A chaddug a chyni'r nos hir yn nesáu,
Daw pan fo calon y dewraf ar dorri
Mewn nych o weld llewych y wawr yn pellhau.

Chwifia'r bell anthem o riniog yr anwel,
Murmur o foroedd annirnad drwy nudd,
Chwydda'i phêr nodau o gyrrau y gorwel
Fel ped fai ddôr ar led-agor liw dydd.

Gwewyd y gerdd o swyn pob offeryn,
Miwsig y dyfroedd, a melodi'r coed,
Yn ei pheroriaeth mae cân pob aderyn
A mwynder pob cainc ar a drawyd erioed.

Cwrdd yn y gân mae gorfoledd y gwinoedd
A huliwyd gan heuliau pob haf ar ei hyd,
Ynddi fel goddaith uwch gwyll y drycinoedd,
Fflamia gobeithion y galon i gyd.