Tudalen:Patrymau Gwlad.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

YMHOLI AM HEULWEN

DAETH im hiraeth am oror
Lon a mwyn ar lan y môr,
Gwamalwch oer gymylau
Na'u hir boen ni ŵyr y bau.
Hiraethaf am awr weithion
O ddi-grwybr dawel wybr hon.
Dyry haf i'w daear hedd
A hir-felyn orfoledd.
O am haul ar ymylon
Y glwys dir, a glas y don!

Ysig wyf dan ias y gwynt,
Hir daranau'r dwyreinwynt.
Tramwyais y trwm aeaf
Plwm oer hin, pa le mae'r haf?
Llaith yw'r niwl sy'n llwytho'r nen,
Barddu-lwyth bro ddi-heulwen.
O lawr maenol i'r mynydd
Disymud siom o hyd sydd.
Hulir swyn yr haul a'r sêr
Ar nifwl ein bro'n ofer.
Erfyniaf ar fy union
Hafan deg ar fin y don.

Af, ymholaf am heulwen.
A'i sarn aur hyd asur nen.