Tudalen:Patrymau Gwlad.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CARPE DIEM[1]
(Horas)

NA hola pa ryw dynged inni a rydd
Y duwiau, eu cyfrinach hwy yw hon;
Na chais gan sêr-ddewiniaid Babilon
Ei datgan iti drwy gyfrifon cudd.
P'ond gwell ei goddef, ni waeth beth a fydd?
Boed llawer gaeaf it, neu boed i don
Dy aeaf olaf hwn ymlâdd ar fron
Y greiglan yn ei gwrthwynebu y sydd,
Bydd ddoeth, anwylyd, gloywa'r cochwin, gwêl,
Nad yw edefyn oes ond byr a brau,
Nac oeda i goledd pell obeithion gau;
A ni'n chwedleua, amser ar aden gêl
A ddianc heibio; dyred i fwynhau
Heddiw, na chyfrif ar ryw ddydd a ddêl.

IEUAN BRYDYDD HIR

WIBIOG etifedd awen fyw ei wlad
A garodd dramwy drwy gyfnodau pell,
Lloffion o gynaeafau oesoedd gwell
Ydoedd ei unig olud a'i fwynhad.
Croesodd werinol drothwy tŷ ei dad,
A gwybu ffrewyll aml ystorom hell,
Ond cwmni'r anfarwolion yn ei gell
A leddfai siom, a thlodi, a thristad.

  1. Medwch y diwrnod