Tudalen:Patrymau Gwlad.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ofer y gobaith am eu cyrraedd hwy.
A gogoniannau'r dydd yn colli eu gwawr
Pell-dremia'r seren hwyr yn welw a syn,
Daw heibio awel oer i sibrwd awr
Y disgyn i gylch gorwel cul y glyn:
Cylch i ail-agor, neu dragwyddol gau?
Holaf yn ddwys yr hwyrnos sy'n nesáu.

Y FFLAM ANNIFFODD

CHWERY llwynogod ieuainc yn yr ardd,
Y wadd a deifl i'r parth dwmpathau crwm,
Ac o'r llwyn iorwg am y simnai 'nghlwm
Modryb Tylluan yn yr hwyr a chwardd.
Y ffynnon fach yng nghwr y cae a dardd
A'i phistyll arian heddiw fel y plwm;
Sang y blynyddoeedd cibddall a fu drwm

Ar fangre dirion bore byd y bardd.
Ond cwyd yr hedydd eto at borth y wawr
Gan orfoleddu uwch adfail welw y nos;
Ar furiau braen y murddyn wele yn awr-
Ogoniant hafau gynt yn fflam y rhos;
Er datod o fagwyrydd f'oes, ni'm dawr,
O phery'r gân, a'r weledigaeth dlos.