Tudalen:Patrymau Gwlad.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

DAETH YR HAUL

DAETH yr haul â dieithr hud
Wybren hael, ddibrin olud.
Wyneb eirian y bore
Sy'n dwym dan gusan y de,
Trwy y cangau tyr cyngan
Melodi'r mil adar mân.

I'w gwledd ar glawdd aur y glyn,
Oer gynnau, heidia'r gwenyn.
Yn awr gwau hosanau'r gog
Mae Olwen y Cwm Heulog.
Llonnaf man yw'r fan a fu
Ddarn o wylltedd o'r neilltu.
Ysgwyd o'u cwsg heidiau cel
Gan rywiog win yr awel.
Tirion y modd, try'n y man
Weryd yn aur ac arian.

Miliwn o sêr melyn sydd
Yng nghyn ar eang weunydd.
Hyd ymylau llethrau llon
Drain henoed a dry'n wynion.
Heula gwyrdd fanadl eu gwallt
Aur-felyn ar y foelallt.
O deg afiaith dygyfor
Daear mwy ar dir a môr.