Tudalen:Penillion Telyn.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Do, mi welais heddiw'r bore
Ferch a gawn pan fynnwn inne,
Ac a welais, do, brynhawn,
Ferch a garwn ac nis cawn.

Mi gariaf rhwng fy mreichie
Gaerdydd ac Abertawe,
A Chasnewydd ar fy mhen,
O serch at Gwen lliw'r blode.

Rhyd y bompren grwca,
Pwy welais i 'n mynd drwa,
Dy gariad di, lliw blodau'r drain,
Fel cambric main o'r India.

Gyda'r nos daw'r tŷ yn dywyll,
Gyda'r nos daw golau'r gannwyll,
Gyda'r nos daw diwedd chware,
Gyda'r nos daw tada adre.

Merch o lun 'r wyf yn ei charu,
Merch o lun 'r wyf yn ei hoffi,
Nid o Lŷn gerllaw Pwllheli,
Ond o'r lliw a'r llun sydd arni.


* * *

Mae 'nghariad i'n Fenws, mae 'nghariad i'n fain,
Mae 'nghariad i'n dlysach na blodau y drain,
Fy nghariad yw'r lana a'r wynna'n y sir,
Nid wyf yn ei chanmol ond dwedyd y gwir.