Tudalen:Penillion Telyn.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Lle bo'r cariad wiw mo'r ceisio
Cloi mo'r drws, a'i ddyfal folltio;
Lle bo'r 'wyllys fe dyr allan
Drwy'r clo dur a'r dderwen lydan.

Mynych iawn y bydd fy nghariad
Bryd a llais wrth drefn y lleuad,
A phan fyddo'r lloer yn llawngron,
Dyna'r pryd y bydd hi'n fodlon.

Union natur fy mun odiaeth
Yw nacáu a 'mroi ar unwaith—
Gweiddi Heddwch, diodde'i theimlo,
Dwedyd Paid, a gadel iddo.

Peth ffein yw llaeth a syfi,
Peth ffein yw siwgwr candi,
Peth ffein yw myned wedi nos
I stafell dlos i garu.

Sôn y maent ar hyd y dyffryn
Mai fi yw Neb a chwi yw Rhywun,
Os caiff Neb chwi, Gwen lliw'r blodau,
Bydd gwir i Rywun fy nghael innau.

Câr y cybydd gwd ac arian,
A phwy sydd nas câr ei hunan?
Myfi sy'n caru merch yn anghall
Ac yn bychanu popeth arall.