Gwirwyd y dudalen hon
Tros y môr mae'r adar duon,
Tros y môr mae'r dynion mwynion,
Tros y môr mae pob rhinweddau,
Tros y môr mae 'nghariad innau.
Tros y môr y mae fy nghalon,
Tros y môr y mae f'ochneidion,
Tros y môr y mae f'anwylyd,
Sy yn fy meddwl i bob munud.
Anodd plethu dŵr yr afon
Mewn llwyn teg o fedw gleision,
Dau anhawddach peth na hynny
Yw rhwystro dau fo'n ffyddlon garu.
Paham mae'n rhaid i chwi mo'r digio
Am fod arall yn fy leicio?
Er bod gwynt yn ysgwyd brigyn,
Rhaid cael caib i godi'r gwreiddyn.
Fe geir cyfoeth ond cynilo,
Fe geir tir ond talu amdano,
Fe geir glendid ond ymofyn,
Ni cheir mwynder ond gan Rywun.
Tra bo Môn a môr o'i deutu,
Tra bo dŵr yn afon Conwy,
Tra bo marl dan Graig y Dibyn,
Cadwaf galon bur i Rywun.