Tudalen:Penillion Telyn.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dacw 'nghariad ar y bryn,
Rhosyn coch a rhosyn gwyn,
Rhosyn coch sy'n bwrw ei flodau,
Rhosyn gwyn yw 'nghariad innau.

Saif y lloer a'i chlustiau i fyny
Yn ddistaw, pan fydd Gwen yn canu;
Wel, pa ryfedd fod ei chariad
Yn gwirioni yn sŵn ei chaniad?

Gwyn fy myd na bawn yn walch
Neu ryw aderyn bychan balch,
Mi wnawn fy nyth yng nghwr y gwely
Lle mae Nansi Llwyd yn cysgu.

Tri pheth sy'n anodd imi—
Cyfri'r sêr pan fo hi'n rhewi,
Rhoi fy llaw ar gwr y lleuad,
Gwybod meddwl f'annwyl gariad.

Ni bu ferch erioed gyn laned,
Ni bu ferch erioed gyn wynned,
Ni bu neb o ferched dynion
Nes na hon i dorri 'nghalon.

Os collais i fy nghariad lân,
Mae brân i frân yn rhywle,
Wrth ei bodd y bo hi byw,
Ag 'wyllys Duw i minne.