Gwirwyd y dudalen hon
Hardd yw gwên yr haul yn codi
Gyda'i lonaid o oleuni,
Hardd y nos yw gwenau'r lleuad,
Harddach ydyw grudd fy nghariad.
Tlws yw'r lleuad yn y tonnau,
Tlws yw'r sêr ar noson olau,
Ond nid yw y sêr na'r lleuad
Hanner tlysed ag yw 'nghariad.
'Rwyf yn hoffi sŵn y delyn
Gyda'i their-res dannau melyn,
Ac mae'r mêdd yn ddigon melys
Nes caf brofi mêl ei gwefus.
Sôn am godi pont o sglodion
O Sir Fôn i Sir Gaernarfon—
Gwallt fy mhen ro'n ganllaw iddi,
Er mwyn y ferch sy'n tramwy trosti.
Dy liw, dy lun, dy law, dy lygad,
Dy wedd deg a'th ysgafn droediad,
Dy lais mwyn a'th barabl tawel
A'm peryglodd am fy hoedel.
Mae 'nghariad i eleni
Yn byw yn South Corneli,
Yn fain ei gwest, yn nêt ei phleth
Yn wynnach peth na'r lili.