Tudalen:Penillion Telyn.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gofid

O F'ANWYLYD, cyfod frwynen
Ac ymafael yn ei deupen;
Yn ei hanner tor hi'n union,
Fel y torraist ti fy nghalon.

Maen' hw'n dwedyd y ffordd yma
Nad oes dim mor oer â'r eira;
Rhois ychydig yn fy mynwes,
Clywn yr eira gwyn yn gynnes.

Dod dy law, on'd wyt yn coelio,
Dan fy mron, a gwylia 'mrifo;
Ti gei glywed, os gwrandewi,
Sŵn y galon fach yn torri.

Llun y delyn, llun y tannau,
Llun cyweirgorn aur yn droeau,
Tan ei fysedd O na fuasai
Llun fy nghalon union innau.

Gwynt ar fôr a haul ar fynydd,
Cerrig Ilwydion yn lle coedydd,
A gwylanod yn lle dynion,
Och, Dduw, sut na thorrai 'nghalon?

Ow, fy nghalon, tor os torri,
Pam yr wyt yn dyfal boeni
Ac yn darfod bob yn 'chydig
Fel ia glas ar lechwedd llithrig?