Tudalen:Penillion Telyn.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dacw lwyn o fedw gleision,
Dacw'r llwyn sy'n torri 'nghalon,—
Nid am y llwyn yr wy'n ochneidio
Ond am y ferch a welais ynddo.

Pe bai un o'r meini mwya
Sy oddi yma i droed yr Wyddfa
Yn fy mol lle bu fy nghalon,
Fe'i gwnâi dristwch hwnnw'n sgyrion.

Mae fy nghalon i cyn drymed
A'r maen mwya sy yn y pared,
A chyn llawned o feddyliau
Ag yw'r gogor mân o dyllau.

Fe gwn yr haul pan ddaw boreddydd,
Fe gwn y tarth oddi ar y dolydd,
Fe gwn y gwlith oddi ar y meillion,
Gwae fi, pa bryd y cwn fy nghalon?

Mi wrthodais, ffôl yr oeddwn,
Ferch a garai'r tir a gerddwn,
Ac a gerais, do, 'n garedig,
Ferch a'm gwerthodd am ychydig.

Maent yn dwedyd am yr adar
Nad oes un o'r rhain heb gymar—
Gwelais dderyn brith y fuches
Heb un gymar na chymhares.