Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gair a barn Arglwydd yr holl ddaear. Yn wyneb rhybudd Mr. Churchill a datguddiad Arglwydd Camrose, buddiol yw ystyried yn ddwys wreiddiau'r "farn gyhoeddus" rhag i bropaganda gwlad a phlaid lygru barn, a gras, a gwirionedd Crist. Anhraethol bwysig, yn llifeiriant y farn gyhoeddus, yw cofio rhybudd Crist: "Paham na fernwch chwi, ie ohonoch eich hunain, y pethau sydd gyfiawn?"

RHYFELOEDD ERAILL

Y ffaith gyntaf i'w chofio yw nad Hitler na'r Almaen yw achos pob drwg a rhyfel. Yn y rhyfel olaf onid oedd y Twrc yn elyn, a Siapan a'r Eidal mewn cynghrair â ni. Ddwy flynedd yn ôl onid Ffrainc oedd i'w hymrwymo â ni mewn cyfamod tragwyddol? Flwyddyn yn ôl y troisom o elyniaeth i gyfeillgarwch â Rwsia. Cyn y rhyfel olaf yr oeddym ddwywaith ar fin rhyfel â Rwsia ac unwaith ar fin rhyfel â'r America. Ac onid oedd gelyniaeth chwerw ac ymbleidiaeth ffyrnig yn y wlad hon cyn ac wedi'r rhyfel olaf? Yn Lloegr trefnwyd "cload-allan" o'r holl weithwyr adeiladu drwy'r Deyrnas i ddod mewn grym yn Awst 1914. Yn Iwerddon yr oedd miloedd o Babyddion y De a Phrotestaniaid y Gogledd mewn cyflawn arfogaeth i ryfel cartref. Yng Nghymru ym mhob tref a phentref yr oedd capel ac eglwys yng ngyddfau ei gilydd, ac yn hawlio neu yn rhwystro gorfodaeth y Ddeddf ar Fater Datgysylltiad a Dadwaddoliad. Meithrinfa i ysbryd rhyfel oedd y rhyfeloedd cartrefol hyn, yn ôl adroddiad Comisiwn Syr Lleufer Thomas yn 1917 am achosion cynnen yn y De.

Yn wir, yn ôl rhai o gynrychiolwyr pwysicaf Prydain yng Nghynghrair y Cenhedloedd, megis Syr Eric Drummond, yr Ysgrifennydd Cyffredinol, a Mrs. H. M. Swanwick, cynrychiolydd y Llywodraeth yn 1924 a 1929 yn Genefa, o nwyd a rhagfarn ac anwybodaeth y dorf anwadal a'u harweinwyr oedd yn chwarae ar eu hatgasedd y cododd llawer o anawsterau y Cynghrair!

"Yr anhawster yw, i'r bobl gael gwybod pris echryslawn y fuddugoliaeth. Y mae rhyfel yn digalonni rheswm ac yn calonogi casineb, ofn a rhaib, yn enwedig ym mysg llywodraethwyr a fentrodd eu cwbl ar fuddugoliaeth, ac ymhlith ysgrifenwyr a siaradwyr a wnaeth, trwy eu geiriau,