Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y ffordd yn ôl i edifeirwch yn galed. Fe'm hargyhoeddwyd fod chwant rhyfel yn un o'r rhai cryfaf a mwyaf cymhleth o'n chwantau. Fe welwyd hynny yn agos yng ngweithredoedd ffiaidd y Black and Tans yn yr Iwerddon, ac yn Ne Affrica o bell, pan losgwyd ffermydd, ie a dodrefn a Beiblau y Boeriaid gan ein milwyr nwydwyllt, a llawysgrifau pwysig yr enwog Olive Schreiner. Chwant arglwyddiaethu yw, a chasineb at arglwyddiaeth eraill arnom ninnau, ynghyd â chwantau cenfigen ac eiddigedd. Y mae pob gwladwriaeth yn canmol ysbryd yr haid gartref ac yn ei ffieiddio draw. Mwynheir megis rhinwedd rhyw 'ddicter cyfiawn' a'r ymorchestu a'r canmoliaeth o wrhydri, a chwaraeir ar ofnau'r dorf nes iddynt flino neu ymwylltio. Ac yn y cwbl y mae'r Wasg yn ymdrybaeddu ac yn ymgyfoethogi. Ofer yw ceisio heddwch wrth uno'r Pwerau ynghyd, a gadael y nwydau hyn heb eu cyffwrdd, nes cael eu deffro i ryfel newydd dan enw newydd."

H. M. SWANWICK (The Roots of Peace).

CYFIAWNHAD RHYFEL

Cadarnheir dadansoddiad cynrychiolwyr Prydain gan gyffes agored un o gadfridogion yr Almaen, a gyhoeddwyd ledled y wlad hon yn y rhyfel diwethaf. Dyma ciriau'r Cadfridog von Bernhardí:

"Sylfaenir moesoldeb Cristnogol yn wir ar gyfraith cariad. 'Car dy Dduw uwchlaw popeth a'th gymydog fel ti dy hun. Ni all y gyfraith hon hawlio awdurdod ym mherthynas gwlad a gwlad oherwydd y buasai hynny'n arwain i wrthdrawiad dyletswyddau. Buasai unrhyw gariad at wlad arall fel y cyfryw yn golygu diffyg cariad at ei gyd-wladwyr ei hun. Buasai'r fath gynllun o wleidyddiaeth yn sicr o gamarwain dynion. Personol a chymdeithasol yw moeseg Cristnogaeth, ac ni all yn ei natur fod yn wleidyddol. Y mae'r dyhead am ddileu rhyfel yn hollol groes i'r deddfau mawr cyffredinol sydd yn rheoli bywyd oll. Angen bywydegol o'r pwys mwyaf yw rhyfel."

Diddorol yw cymharu geiriau diweddaraf Hitler i genedl yr Almaen:

"Ymgyrch i benderfynu parhad ein bodolaeth neu ynteu distryw ein pobl yw'r ymgyrch a orfodwyd arnom gan yr un gelynion ag yn 1914. Barnwr cyfiawn yw Duw; ond ein tasg ni yw gwneuthur ein dyletswydd modd y gallon ymddangos yn deilwng ger Ei fron yn ôl Ei ddeddfau o'r ymgyrch am fodolaeth."

(Times, 1 Chwefror, 1943).

A rhag ein bod yn diolch i Dduw nad oeddym fel yr Almaenwr hwn, cymharwn gyffes ffydd crefyddwr a chadfridog enwog arall, sef y Prif Gadfridog Arglwydd Roberts:

"Gallwn ofidio fod yr hyn a clwir yn rym bwystfilaidd yn brif anghen-