Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

raid i lwyddiant masnachol. Ond felly y bu erioed, felly y mae, ac felly y bydd yn wastad. Cofiwch na chynhyrfir cenhedloedd yn unig gan gymhellion a welir, ond gan bwerau dall ac elfennol, economaidd, cymdeithasol a chnawdol; ymleddir yn wastad ymgyrch guddiedig, a thywyll yw'r gwreiddiau. Cadw pethau fel y maent—hyn a ddylai fod ein dymuniad cyntaf, unig ac olaf yn Ewrop. Nid oes angen lledaenu ein Hymerodraeth; y mae'n ddigon anferth fel y mae. Dymunwn fyw mewn heddwch a chariad â phob cenedl, ac yn llawen ceisio heddwch a'i ddilyn. Ond yr unig ffordd i sicrhau heddwch yw paratoi am ryfel."

(Imperial Defence).

"Tery yr Almaen pan dery awr yr Almaen ac y mae'n bolisi rhagorol. Y mae yn bolisi, neu fe ddylasai fod, i bob cenedl a fyn chwarae rhan fawr mewn hanes. Pa fodd y sylfaenwyd Ymerodraeth Prydain? Rhyfel a sylfaenodd yr Ymerodraeth hon—rhyfel a buddugoliaeth. Pan gymhellwn yr Almaen—ninnau sy'n feistri trwy ryfel ar drydedd ran o'r byd—i ddiarfogi, i leihau ei llynges neu ei byddin, y mae'r Almaen yn naturiol yn gwrthod, ac yn cyfeirio, nid heb gyfiawnder, at y ffordd y dringodd Lloegr, â chleddyf yn ei llaw, i'w huchelder, ac yn datgan yn agored, neu dan len iaith diplomyddiaeth, mai ar hyd y ffordd honno y bwriada'r Almaen esgyn hefyd. Pwy ohonom sydd yn gwybod am orffennol ein cenedl a phob cenedl a barodd ddisgleirdeb i'w henw yn hanes dynion a all ystyried datganiad un o'u rhai mwyaf, flwyddyn a hanner yn ôl, neu y Cadfridog Bernhardi dri mis yn ôl, gydag unrhyw deimladau ond parch."

(Message to the Nation, 1912).

CYFRIFOLDEB AM Y RHYFEL DIWETHAF

Heb fyned ymhellach o safbwynt dynion mor amlwg ac enwog i olrhain hanes cynlluniau'r polisi a broffeswyd ganddynt, gellir enwi ymysg achosion y rhyfel y cytundeb cyfrinachol â Ffrainc i adael rhyddid i ni lywodraethu'r Aifft am bris rhyddid i Ffrainc feddiannu Morocco. Tynnwyd ni at fin rhyfel yn 1912 gan ddatguddiad y cynllwynio hyn (gweler Ten Years Secret Diplomacy, E. D. Morel); hefyd fod ein gwlad wedi ymrwymo wrth Ffrainc trwy ddealltwriaeth ddirgel na wyddai ond tri o'r Cabinet amdano yn nechrau 1914 (gweler Hanes Bywyd y Cadfridog French ac Arglwydd Loreburn). Ond digon efallai i'r amcan presennol fydd cyffes dau o Brif Weinidogion y buddugoliaethwyr eu hunain:

"Po fwyaf y bydd i ddyn archwilio mewn tawelwch ddigwyddiadau Gorffennaf 1914 mwyaf yr argreffir ar ei feddwl enciliad y llywodraethwyr mewn enw o'r Ymerodraethau ymosodol fel y nesaent at y dibyn, a hefyd