Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu gwladgarwch weithiau mor gyfyng, cul a gwaedlyd, ag eiddo'r bobl oedd yn edrych atynt am wirionedd a goleuni. Yr oeddynt yn aml yn fwy mileinig cyfyng a dialgar, na'r milwyr a ymladdodd. Erbyn hyn, fe wyddom fod y milwyr o'r Almaen ac Awstria, o Ffrainc, o'r Eidal a Phrydain, yn glaf o weled y lladd diddiwedd ymhell cyn diwedd y rhyfel, ac y buasent yn fodlon ar heddwch llawer tecach na'r hyn a fu, pe cymerid pleidlais yn y ffosydd. Ond yr oedd Archesgob Caergaint ac Esgob Cologne a'r clerigwyr a lefarodd o lawer pulpud mewn llawer cenedl o dan Groes Crist yn parhau i brocio tân casineb ac yn cymell y byddinoedd i ddal ymlaen i ymladd dros 'achos cyfiawnder,' 'amddiffyniad eu gwlad neu gyfiawnder Cristnogol' hyd yr eithaf chwerw. Gofid yw ysgrifennu'r fath eiriau, ond gan fy mod yn ysgrifennu'r llyfr hwn yn enw'r gwir, costied a gostio, gadawaf iddynt sefyll."

SYR PHILIP GIBBS (Realities of War).

GWEDDILL HEDDYCHOL YR EGLWYS

Ymysg yr ychydig y cyfeiriwyd atynt gan Syr Philip Gibbs a geisiodd gadw'n eglur dystiolaeth y proffwydi a'r Efengyl trwy gwrs y rhyfel yr oedd y Prifathro John Skinner, gŵr enwog fel ysgolhaig a diwinydd. Pan holwyd yng Nghymdeithasfa Eglwys Bresbyteraidd Lloegr paham yr oedd cynifer o efrydwyr Coleg Westminster, Caergrawnt, yn Heddychwyr cododd yr hen wron i egluro:

"Dywed rhai ohonoch mai bai John Skinner yw; dywed eraill mai bai John Oman yw, ond credaf eich bod yn gwybod yn eich calonnau mai bai Iesu Grist ydyw."

Tystiolaethodd ei olynydd, y Prifathro John Owen, mai'r eglurhad a gafodd gan wŷr ieuainc talentog a disglair a rwystrwyd gan y rhyfel rhag myned i weinidogaeth yr Eglwys ydoedd a ganlyn:

"Eu bod wedi colli eu ffydd yn yr Eglwys fel cynrychiolydd y math ar ffydd y daethant i'w meddiannu fel moddion i ennill unrhyw fuddugoliaeth wrol ac ysbrydol. Gallesid cyfleu eu hagwedd tuag at ryfel a'r eglwysi gan gwestiwn swyddog yn y fyddin oedd yn aelod o Eglwys Loegr, 'Beth a wnaeth yr Eglwysi i rwystro'r rhyfel? Beth a wnaethant i ddiogelu ein delfrydau ynddo? Beth a wnaethant i sicrhau heddwch wedi'r rhyfel?"

Gellid dangos ing a siom y milwyr drwy adrodd geiriau a llythyrau llawer un ohonynt. Dyma lythyr a ysgrifennwyd gan filwr ieuanc o Gymro, mab y Parch. David Lloyd Jones, Llandinam, cyn iddo gael ei ladd gan y Twrciaid ym mrwydr Bae Suvla, Awst 1915: