Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chanlyniadau'r rhyfel gan yr Americanwr enwog Kirkby Page, dan nawdd Cyngor Eglwysi'r America, gyda rhagair gan y Dr. Fosdick. O'r llyfr hwnnw fe ddyfynnir y ffeithiau a ganlyn:

COSTAU ARFOGAETHAU Y RHYFEL

Gwariwyd yn y deuddeng mlynedd cyn y rhyfel diwethaf ar arfogaethau:

Gan yr Almaen, Awstria a'r Eidal . . . 1,383,000,000p.
Gan Rwsia, Ffrainc a Phrydain . . . 2,360,000,000p.

heb gyfrif costau rhyfel De Affrica, sef 178,000,0cop. At hyn rhaid cyfrif costau y rhyfel a ymladdwyd rhwng 1914 a 1918 mewn arian a gwerth bywydau ac eiddo, sef 67,589,000,000p.

Y COSTAU DYNOL

Lladdwyd milwyr . . . 10,000,000
Tybiwyd eu lladd . . . 3,000,000
Dinasyddion meirw . . . 13,000,000
Clwyfwyd . . . 20,000,000
Carcharorion . . . 3,000,000
Amddifaid . . . 9,000,000
Gweddwon . . . 5,000,000
Ffoaduriaid . . . 10,000,000

Nid rhyfedd i'r Dr. Fosdick yn ei Ragair i'r llyfr gyffesu:

"Ond gwelaf hyn yn glir, mai rhyfel yw'r pechod cymdeithasol mwyaf, a'r mwyaf dinistriol, sydd yn gorthrymu'r ddynoliaeth heddiw, ei fod yn llwyr ac yn anfeddyginiaethol anghristionogol, bod y drefn filwrol yn golygu'r cwbl nad olygai'r lesu, ac yn golygu dim o'r hyn olygodd Ef; ei fod yn wadiad mwy haerllug o bob athrawiaeth Gristnogol o Dduw ac o ddyn nag eiddo holl atheisiaid y ddaear. Gwelaf nad yw'r cwerylon rhwng ffwndamentalwyr a modernwyr, uchel-eglwyswyr ac isel-eglwyswyr ond yn degymu'r mintys a'r cwmin, oni bydd i'r Eglwys ddelio â'r prif-gwestiwn hwn—Crist yn erbyn rhyfel."

KIRKBY PAGE (War).

Y COSTAU MOESOL

Yn ôl cyn-Brif Weinidog yr Eidal (Signor Nitti):

"Bychan oedd y colliadau mewn eiddo a bywyd dynol o'u cymharu â'r tanseilio a fu ar foesau a gostwng safonau diwylliant a gwareiddiad."