Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD II

TAITH YR ANIALWCH

Y Ffordd Arall. Datgysylltiad. Yr Heddychwyr. Y Senedd Ryddfrydol. Heddychwyr Cymru. Anturiaeth y Cymod. Y Creaduriaid. Sosialaeth a Heddwch. Llonyddwch Llŷn. Llysoedd Barn. Dan y Ddeddf.

Y GENHADAETH HEDD

YSGRIFENNAIS a ganlyn ar lun profiad o bererindod bersonol, dan yr argyhoeddiad na cheir gwir heddwch heb gyfeillgarwch, ac na cheir cyfeillgarwch ond trwy gyfuniad a chyffyrddiad personol. Nid digon gan ddyn "egwyddorion cyffredinol" y pen, heb deimladau'r galon, a gweithrediadau a gwrthdrawiadau bywyd. Nid anghofiaf fod y gwirioneddau mwyaf wedi eu cyfleu i ddynion ar lun storïau, damhegion a hanesion, a ddangosai fywyd ar ei hynt, a phersonoliaeth yn ei waith. Modd bynnag ni ddysgais fawr mewn ysgol, ac nid oes gennyf na dull na dawn ysgolheigion. Yr addysg orau a gefais oedd atgofion amlochrog fy nhad a'm mam, sgwrs aelwydydd, cartrefi a chyfeillach, a chymdeithas y saint o lawer llun a lle.

Y FFORDD ARALL

Nid Doethion y Dwyrain yn unig a orfodwyd i ddychwelyd i'w gwlad "ar hyd ffordd arall" wedi gweled y Mab, a deall cenadwri Duw. Fe ddywedir bod pob dyn, rhywdro a rhywfodd yn ei fywyd, yn cyfarfod Crist ar Ffordd Damascus. Felly finnau. Cyn y rhyfel yr oeddwn yn gyfaill ac yn gydweithiwr a'r Arglwydd Davies Llandinam yn ei gynllun- iau eang i wella cyflwr Cymru. Ymdaflodd eisoes i ymdrech genedlaethol yn erbyn y Pla Gwyn, trwy hyrwyddo sefydliadau ac ysbytai arbennig ar hyd a lled y wlad i wella'r cleifion ac i chwilio achosion y darfodedigaeth alaethus yng Nghymru. Cafwyd yn fuan nad diffyg yn y cyfansoddiad dynol oedd yr achos mawr tu ôl i'r clefyd, ond diffyg awyr iach a thai iach. Wedi cwrs o adferiad hir a chostus mewn sanatoriwm dychwelai'r claf i'r tŷ slymaidd neu afiach, a