Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chlafychai drachefn. Felly gofynnodd i mi gydweithredu ag ef a cheisio myned at wreiddyn y drwg trwy adeiladu nifer o faesdrefi (Garden Villages) yng Nghymru er mwyn egluro i'r wlad beth oedd yn bosibl ac yn ymarferol i godi tai rhad, iach a heulog a chyfleus a hardd. Cawsom wasanaeth gwŷr dyheig fel Syr Raymond Unwin a T. Alwyn Lloyd a ddaeth yn bensaer i'r Welsh Town Planning and Housing Trust. Adeiladwyd yn ystod y blynyddoedd rai miloedd o dai heirdd a threfnus i weithwyr mewn maesdrefi yn Wrecsam, Rhiwbina, y Barri, Burry Port, Llanidloes, Machynlleth, a llawer man yn Lloegr. Yr oedd ffordd- lydan gwasanaeth gwlad felly yn agored led y pen, gyda chefnogaeth teulu dyngarol a chyfoethog, a chyfarwyddyd a chydweithrediad rhai o wŷr enwog Cymru—megis Arglwydd Kenyon, Arglwydd Treowen, Syr Stafford Howard a Syr Lleufer Thomas, ac eraill a gymerai olwg eang ar drefn a chynhaliaeth yr anturiaeth.

Cefais hefyd bob croeso a chymorth, trwy Syr Herbert Lewis a Syr Hugh Owen, gan Weinidogaeth y Llywodraeth Leol. Teimlais, wrth weled y pentrefi hardd yn codi, a gerddi digonol a choedydd prydferth o'u hamgylch, fy mod yn cyffwrdd realiti yng Nghymru, ac yn gosod sylfeini'r ddinasyddiaeth newydd. Yr oeddwn hefyd yn Lieutenant yn Nhiriogaethwyr yr R.W.F., yn hela llwynogod, yn aelod eglwysig, ac ar delerau da â'r byd. Yna treiglodd ffrwd y bywyd personol dros fy ffordd lydan; yfais o'i dyfroedd, cloffais rhwng dau feddwl, clafychais gan benbleth, chwiliais yn ddyfnach i ogofeydd cymhellion a bywyd nes cyrraedd y tywyllwch eithaf. Ac yn y fan honno y daeth goleuni Crist a darganfyddiad o'i eiriau mai amod ei ddisgyblaeth oedd ufudd-dod: "Os cerwch fi cedwch fy ngorchmynion"-nid teimlad, na chyffes, na phroffes, na gwaith. Gwybod a gweithredu oedd trefn addysg y byd. Gweithredu a gwybod oedd trefn yr Efengyl: "Os ewyllysia neb wneuthur ei ewyllys Ef, efe a gaiff wybod am y ddysgeidiaeth." Ac, o beth i beth, deuthum o anobaith a thywyllwch i oleuni gyda hyn-megis "angor yr enaid"-mai cariad personol Crist oedd yn cadw ac yn cymodi, ac mai cyfeillgarwch personol, ac nid clod nac anghlod y byd, oedd yn cyfrif yn y pen draw.