Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Barnwr Bryn Roberts, ac eraill, yn ddi-dderbyn-wyneb yn eu Pasiffistiaeth, a chafwyd Seiat Heddychwyr fyth-gofiadwy o'r arweinwyr yn Abermaw yn gynar yn 1916. Yn eu plith hefyd yr oedd yr hynod John Morgan Jones o Ferthyr, ysgolhaig ac athronydd a phroffwyd nas cydnabuwyd yn ei ddydd. Cofiaf yn niwedd 1915 fyned i annerch cyfarfod ym Merthyr. Yn Llundain a Lloegr prin oedd y cynulliadau cyhoeddus dros heddwch; arfer heddychwyr a disgyblion Tywysog Tangnefedd oedd cyfarfod o'r neilltu ac yn aml "cau y drysau rhag ofn yr Iddewon." Ond ym Merthyr fe'm synnwyd wrth weled cyfarfod o ddwy fil o bobl yn gwrando'n astud dan lywyddiaeth J.M., a eglurai ei fod yno, nid fel gŵr plaid, ond fel gweinidog Crist. Wedi hynny bu Merthyr fel Mecca i bererinion heddwch megis Ramsay Macdonald, Ponsonby, Trevelyan, ac eraill na allent ddweud eu cenadwri mewn mannau eraill o'r wlad. Yr oedd Keir Hardie, yr A.S. dros Ferthyr, yn Heddychwr o argyhoeddiad dwfn, fel ei ragflaenydd Henry Richard, A.S. Torrwyd calon Hardie o'r diwedd pan floeddiwyd ef i lawr gan y dorf yn ei etholaeth ef ei hun yn Aberdâr. Cyffesodd cyn ei farw, "Yn fynych yr wyf yn glaf o galon â gwleidyddiaeth a phopeth a berthyn iddi. Pe bawn ugain mlynedd yn iau credaf y gadawswn gartref, gwraig a phlant, i bregethu holl Efengyl Iesu Grist." Trodd y dorf yn fuan ar ôl ei farwolaeth i ddilyn disgyblion Keir Hardie, ond troisant wedyn gyda hwy i ymladd y rhyfel dosbarth, ac wedyn i gefnogi'r rhyfel presennol. Fel yr aeth y rhyfel yn ei flaen, carcharwyd miloedd o Wrthwynebwyr Cydwybodol am fethu cael eu cydnabod gan y Tribiwnlysoedd, neu am anufuddhau i delerau eu dyfarniad. Cefais innau fy eithrio'n llwyr gan y llys cyntaf yn Llundain: fe'm dedfrydwyd i wneuthur gwaith anfilwrol gan Lys yr Apêl; a'm rhyddhau i waith dan Gymdeithas y Cyfeillion gan y Llys Uchaf.

ANTURIAETH Y CYMOD

Yn nechrau'r flwyddyn 1916 fe'm gwahoddwyd i anturiaeth y cymod ynglŷn â throseddwyr ieuainc o'r carchardai, sef ceisio ffordd amgenach i'w diwygio na charchar a chosb ofer. Yr oedd carchardai'r wlad ar y pryd yn llawn o dros-