Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eddwyr ieuainc. Trosglwyddwyd inni nifer o lanciau anhydrin a merched gwyllt gan y Barnwr cyfiawn hwnnw Syr Edward Clarke Hall; y mae peth hanes yr anturiaeth a'n ffordd gyda throseddwyr i'w gael yn ei lyfr, The State and the Child, ac hefyd yn The Young Delinquent gan yr Athro Cyril Burt, cynghorydd mewn seicoleg i Bwyllgor Addysg Llundain. Felly, nid gwrthwynebu rhyfel oedd yr unig gam oedd yn agored i Heddychwyr, ond ceisio wynebu pob cam oedd yn ein cyrraedd tuag at ryddhad plant dynion o achosion gelyniaeth, sef trosedd, a dial ofer, oedd yn drygu cymdeithas gartref a thramor. Cefais ymgom faith â C. Russell, Prif Swyddog y Swyddfa Gartrefol ynglŷn â throseddwyr ieuainc. Wedi rhyw dair awr o hanes a phrofiad, dywedodd "Os ydych chwi yn iawn, y mae holl gyfundrefn carchardai Prydain yn groes i ddeddfau seicoleg." Atebais nad oeddym ninnau yn iawn, ond fod dysgeidiaeth Crist ynglŷn ag argyhoeddiad a dychweliad y troseddwr yn seicoleg dwfn, deallus ac ymarferol.

Nid oes gofod yma i ddisgrifio helynt ein bywyd beunyddiol mewn ffermdy yn y wlad gyda dwsin o droseddwyr ieuainc nwydwyllt. Gwelsom ysbeidiau o ymladdfeydd, o ddiogi, o ddwyn ac o ddianc am ddiwrnodíau; ond rywsut llwyddasom i gadw ysbryd y teulu a gwelsom y naill a'r llall yn torri trwodd ac yn newid eu meddwl a'u ffordd o fyw. Nid oedd na chosb na chaethiwed, na bygwth na phregeth yn yr anturiaeth, eithr rhyddid llwyr a dull o fyw oedd yn eu harwain, drwy brofiad o'u hanrhefn eu hunain, i droedigaeth meddwl. Y mae hanes anturiaeth gyffelyb i'w weled yn y Little Commonwealth gan yr Americanwr Homer Lane, un o'r dynion mwyaf yn anturiaeth ryfeddaf ei genhedlaeth (yn ôl ei gyfaill Arglwydd Lytton) ynglŷn â phwnc sylfaenol cymdeithas, sef "Pa fodd i drin y troseddwr?'

Y CREADURIAID

Ar ddiwedd yr anturiaeth gyda'r troseddwyr euthum fel bugail defaid a gwas ffarm i Lŷn.

Wedi byw mewn pwyllgorau a thrafodaethau politicaidd a chrefyddol yn Llundain, a dod wyneb-yn-wyneb â llygriad yr ieuenctid gan fywyd y slymiau yno, yr oedd bywyd bugail