Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Llŷn, yng nghanol creaduriaid gwlad a ffarm, yn foddion gras. Awn gyda'r ci, cyn glasu o'r dydd, ac ar draws yr eira yn y Gwanwyn, i chwilio am fy mhraidd. Cefais hwynt yn aml yn llechu rhag y gwynt oer ac yn chwilio am flewyn glas ym môn y cloddiau, ac yn fynych wedi eu dal gan ganghennau'r mieri. Gwingasant mewn dychryn wrth i mi nesáu, a'm cyllell yn fy llaw, ac yna gorweddasant yn llonydd mewn braw. Wedi torri'r mieri a'u gollwng yn rhydd, synasant am wyrth oedd yn rhy ryfedd i'w deall gwlanog hwy. Weithiau cefais oenig yn brefu wrth ochr ei fam farw, ac wrth i mi ei gario yn fy mreichiau i'r ysgubor, a'i ddysgu i yfed llefrith cynnes, a chlywed wedyn ei fref groesawus wrth fy nisgwyl, codai hen reddfau cyntefig dyn wrth ofalu am greaduriaid gwan a gwirion. Dysgwyd fi yn fuan mor anodd ydoedd dal dafad neu oen ar eu pennau eu hunain, ac mor hawdd ydoedd eu gyrru i'r fan a fynnwn ond iddynt heidio i braidd dan gyfarthiad y ci. Rhyw greadigaeth newydd ydoedd yr oen llywaeth, heb fod yn perthyn i'r haid, heb ofn na bugail na chi, am ei fod wedi ei fagu â'r llaw, ac mewn awyrgylch cartref. Deuai yn hy i'r gegin a chwarae ei branciau fel plentyn. Deallais yn awr yn well ergyd neges y proffwyd Nathan i'r Brenin Dafydd am yr oen llywaeth. Dysgais hefyd fod ffordd i lywodraeth calon y ci. Gwyddwn ychydig am "iwsio" ceffyl yn hytrach na'r "torri i mewn" didrugaredd; blinwyd fi'n aml flynyddoedd cynt gan galedwch marchogion ac amaethwyr tuag at y creaduriaid oedd dan eu llywodraeth unbenaethol. Dysgais orfod cadw fy nhymer gyda'r ci, a dod yn y diwedd yn ben ffrindiau. Ymhen deng mlynedd ymwelais eto â'r ffarm, ac wrth i ni gael te yn y parlwr, sleifiodd yr hen gi i'r cysegr a than y bwrdd, a theimlais ei drwyn oer ar, fy llaw, a'i dafod yn ei llyfu. Cymerais ddiddordeb mawr yn y "rasus cŵn" fel y gelwid hwynt, ac yn nawn gwŷr gwladaidd oedd wedi dysgu'r grefft o'u disgyblu mewn ffordd rasol. Cefais dystiolaeth gan fwy nag un o'r rhai mwyaf deheuig yng Ngogledd Cymru, mai disgyblu meddwl a thymer y bugail yw'r cam cyntaf yn y ddisgyblaeth. Cefais, ymhen blynyddoedd, lythyr pwysig oddi wrth y cyfaill hoffus L. J. Humphreys, Rhos Lefain, Towyn, a oedd yn ŵr blaen yng nghyfarfodydd cystadlu y cŵn defaid.