Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae ei brofiad ymarferol mor eang, a'i athrawiaeth mor hynod, yn wyneb credo gyffredinol yr oes mewn cosb a gorfodaeth, mewn ysgol a byd, fel y dyfynnaf yn helaeth ohono am driniaeth y bwystfil sydd yn gefnder i'r blaidd":

"Ystyr hyfforddi yw datblygu dealltwriaeth ci. Nid yw hyn yn golygu gwneuthur peiriant o gi, i gyflawni beth bynnag a ddywedir wrtho, ond cael gan y ci i sylweddoli ei fod yn berson, gyda'i feddwl ei hun a gallu i ymresymu, sydd yn ei alluogi i ddeall sefyllfa ac i weithredu yn ôl hynny. Y wers gyntaf yw dysgu iddo ei fod yn gyfaill i'w feistr ac nid yn anifail; a gwneir hynny nid trwy ddicter a chosb ond trwy ddealltwriaeth a charedigrwydd. Y mae rhywfaint o gosb yn hyfforddiant pob ci; mewn gwirionedd cosbir ef bob tro y bydd yn cyfeiliorni, ond nid gan ei feistr ond ganddo ef ei hun. Y mae ci yn byw i blesio ei feistr ac yn gwybod yn union pan fyddo wedi methu. Y mae atal gair caredig ei feistr yn ddigon o gosb iddo. Y mae'n bwysig i gi gael deall bob tro y metha, a bod cyfeiliornad un dydd yn gyfeiliornad bob dydd. Nid yw perthynas chwareus ac annwyl yn lleihau dim ar ufudd-dod na deall y ci, os meithrinir ef yn iawn. Os yn chwarae, chwaraewch; os gweithio, gweithiwch, ac wrth weithio sicrhewch ufudd-dod. Triniwch eich ci yr un fath bob amser; ni wna y tro i fod yn fanwl iawn un dydd ac yn llac y nesaf. Fe gyll y ci ei ffydd ynoch yn fuan. Y mae'r ci a iawn-hyfforddwyd yn deimladwy iawn i feddwl a thymer ei hyfforddwr. Fel y bo dyn, felly ei anifail hefyd. Ni sylweddolwyd hyd yn ddiweddar fod gan gi alluoedd cynhenid, ac mai'r unig ffordd i'w addysgu'n iawn yw datblygu y rhai hyn fel y gall gydweithredu a gweithredu'n annibynnol ar ei feistr fel bo'r amgylchiadau yn gofyn. Mewn gair, y mae gan gi reswm a gallu i'w ddefnyddio, a champ y bugail yw ei gael dan reolaeth heb bylu'r gallu hwn. Rhaid cael ci o dan reolaeth, ond trwy ddealltwriaeth ac nid trwy orfodaeth. Gwna'r bwystfil pennaf hyn o ofn y canlyniadau, ond gweithredu rhag ofn cosb a wna, ac nid cydweithrediad ewyllys. Rhaid i'r bugail ennill calon ei gi, a chael ei ymddiriedaeth, ac yna fe ddaw i ufuddhau o gariad ac nid o ofn, ac unig nod ei fywyd fydd gwneud ei orau i'w feistr. Ymddiriedaeth sydd yn creu ufudd-dod ewyllysgar, cydweithrediad a ffyddlondeb. Hyn a wna'r ci yn bartner ac nid yn beiriant."

Caraswn i'r geiriau uchod gael eu hargraffu ar femrwn hardd ym mhob ysgol, ac ym mhob llys a charchar, ie, ac ym mhob Prifysgol, rhag i ddynion syrthio yn ôl ar hen esgus sâl dros fygythiad a chosb a dial-na ellir newid y natur ddynol. Pa les yw bloeddio am Hunan-reolaeth i Gymru gan wŷr na allant reoli eu tymer wrth guro a chramio plant Cymru yn y tipyn llywodraeth ddynol sydd tan eu hawdurdod?

SOSIALAETH A HEDDWCH

Yr unig newyddiaduron yng Nghymru a ddaliodd at eu