tystiolaeth dros heddwch oedd Y Dinesydd yn y Gogledd a'r Darian a'r Merthyr Pioneer yn y De. Synnais pan yn bugeilio yn Llŷn fod, papur mor uchel ei ddelfrydau â'r Dinesydd, ac mor gartrefol ei arddull Gymreig, yn dal ei dir. Ar y cyfle cyntaf euthum i Gaernarfon i weld y Golygydd, John Huw Williams. Ni phallodd fy mharch iddo a'n cyfeillgarwch ar hyd y blynyddoedd. Cefais ei hanes o beth i beth, ei fod yn ddisgybl i Tolstoi ac i Keir Hardie. Mentrodd ei fywoliaeth wrth ddechrau cyhoeddi papur er budd ei gydweithwyr. Daliodd i ddweud ei argyhoeddiad wrthynt, fod yn rhaid wrth wreiddiau cartrefol a chymdogaethol i heddwch a chyfiawnder. Hawdd ydoedd i Sosialwyr ddweud y drefn am ddrygau rhyfel a chyfalafiaeth, ond anodd ydoedd dal i ddweud am y drefn i waredu'r werin rhag yr un drygau yn eu plith eu hunain, yr ymddiried yn y nerth a'r llu Llafurol, y swydd, a'r arian, ac ysbryd y dorf. Pan welais ef gyntaf yr oedd yn rhygnu byw ar ryw bunt yn yr wythnos, ac yn gweithio deuddeng awr yn y dydd ar waith golygydd, argraffydd a threfnydd. Medrais hel gan gyfeillion 600p. yn rhodd i gadw'r papur ar ei draed. Daliodd i ysgrifennu ei argyhoeddiadau am grefydd a gwleidyddiaeth "at iws gwlad," ac yn arddull Senedd y Pentref; cynorthwywyd ef gan ysgrifau doniol a dawnus y bardd J. T. W., Pistyll, a gyfunai diwylliant gwerin pen Llŷn, gweledigaeth graff a naturioldeb dirodres. (Cyhoeddais dipyn o atgofion am J.T.W. a pheth o'i brydyddiaeth yn Yr Ail Bistyll). Yr oedd Y Dinesydd yn eithaf tebyg i ddull a dawn Lansbury's Weekly, a aberthwyd er budd y Daily Herald, ond collwyd y cyffyrddiad personol a chrefyddol wedi hynny. Cofiaf fod mewn cyfarfod o arweinwyr y Blaid Lafur yng Ngogledd Cymru pan ganmolwyd Y Dinesydd a gwaith ei Olygydd gan E. T. John, A.S., a ddaethai i'r Blaid Lafur ac a oedd yn Heddychwr. Cododd y Golygydd cartrefol, oedd wedi dal pwys a gwres y dydd pan aeth arweinwyr Llafur gyda lli y rhyfel, a dywedodd yn syml, "Pan sonwich chwi am y tipyn papur acw, 'rwy'n teimlo'n union fel tasech chwi'n siarad am un o'r plant acw; ac wrth i chwi ei ganmol, ni choeliech chwi mor agos yw'r dagrau." Gan fod y chwarelwyr bellach yn ennill cyflogau da, a miloedd yn eu cronfeydd, meiddiais
Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/33
Gwedd