Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysgrifennu at gyfrinfeydd eu Hundeb i erfyn arnynt gynorthwyo papur swyddogol eu hundeb eu hunain, a gysegrwyd gan y fath ffyddlondeb ac aberth personol at eu gwasanaeth. Ymhen amser cyfrannwyd rhai cannoedd gan y chwarelwyr, a chyflwynwyd Y Dinesydd i gwmni newydd dan reolaeth nifer o wŷr amlwg yn y Blaid Lafur.

Ond, er fy mawr syndod a'm siom, gollyngwyd yr hen beilot ganddynt dros ochr y llong, a hwyliwyd y papur bellach i gyfeiriad y Trade Winds poblogaidd oedd yn dechrau llenwi hwyliau'r Blaid Lafur, a chollwyd y neges ysbrydol. Ni bu'r Dinesydd bellach yn hir cyn myned yn llongddrylliad; ond achubwyd y peilot i ddilyn ei weinidogaeth bersonol a dyngarol yn y Mudiad Dirwest. Collodd ei swydd, ond cadwodd ei dystiolaeth a'i weledigaeth a pharch ei gyfeillion, fel y gwnaeth ei wroniaid Keir Hardie a George Lansbury, pan yn gwrthod myned gyda lli Llafur. Methodd hefyd Y Darian ddewr yn y De, er holl ymdrech ac aberth y Parch. Tywi Jones i gynnal papur Cymreig anenwadol yn Neheudir Cymru. Yn awch y cyhoedd am bapur ceiniog, oedd yn llawn o hysbysiadau a darluniau, ac yn barod i ddilyn pob awel dysgeidiaeth boblogaidd, collwyd hefyd y Merthyr Pioneer a Lansbury's Weekly a'r Nation. Rhyfedd yw meddwl bod y Daily Herald bellach yn eiddo i gwmni cyfalafol fel Odhams Press ac Arglwydd Southwood, yr Iddew, yn gadeirydd iddo. Mor araf y daw'r werin i sylweddoli y gellir prynu arian yn ddrud, a'i wario'n gynnil ar bapurau a werthir er mwyn elw a chylchrediad ac nid er mwyn dal "y gwir yn erbyn y byd."

Cofiaf hefyd yn 1917 fyned i Gynhadledd yr I.L.P. yng Nghonwy a chyfarfod nifer o arweinwyr y blaid yno. Anerchwyd y cyfarfod gan yr hynod J. Bruce Glasier, cyfaill mynwesol J. Keir Hardie, a llenor y mudiad. Magwyd ef yn Uchel Diroedd Sgotland yn Galfinydd, ond yn ei waith dros weriniaeth a dynoliaeth torrodd ymaith oddi wrth hualau cyfundrefn eglwys a meddwl a aeth yn galed ac yn gul yn Sgotland. Dywedodd yn ei araith, ymysg pethau eraill, pe cynigid iddo holl fanteision Sosialaeth i'r wlad, ar yr amod ei fod yn caniatau cymryd un bywyd dynol, gwrthodasai'r cynnig, am mai ystyr ei Sosialaeth ydoedd cysegredigrwydd