Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y bersonoliaeth ddynol. Synnais glywed y fath ddelfryd yn y fath le. Yn y drafodaeth dywedais innau ychydig am fy narganfyddiadau y llynedd o'r "daioni gwreiddiol" ymhlith troseddwyr ieuainc slymiau Llundain. Gofynnwyd i mi annerch y gynhadledd ar hyn yn y prynhawn; wedi gwneuthur hyn, a chael fy nghroesholi am awr, ymddangosai diddordeb neilltuol yn y pwnc. Yr oedd Pasiffistiaeth yr I.L.P. yn golygu moddion gwleidyddol gwahanol i ryfel; ac nid oedd gorfodaeth deddf na thorf yn lân o ddiystyrru personoliaeth; felly yr oedd triniaeth bersonol o'r troseddwr mewn ffordd arall yn myned at wreiddyn mater tangnefeddiaeth mewn gwleidyddiaeth. Treuliais ddwy awr wedyn yng nghwmni Bruce Glasier a Margaret Bondfield, a chlywais hanes ei bererindod ysbrydol ef. Dywedai ei fod, yn nyddiau ei Sosialaeth Marxaidd, yn gwrthod cyhoeddi barddoniaeth werinol ac enw Duw ynddo, am y credai ei fod yn ofergoeledd; ond yr oedd wedi teithio ymhell wedi hynny, ac wedi darllen yn fanwl y Testament Newydd ers blynyddoedd. Teimlai fod arnom oll angen ffydd yn y ffaith bod Duw yn Dad, a gallai feddwl nad chwedl o gwbl ydoedd hanes cerddediad Pedr ar y dyfroedd dan arch Crist. Credai fod pwerau dihysbydd yn ein cyrraedd yn yr Efengyl ond ein bod wedi eu hesgeuluso yn ein crefydd gyfundrefnol. Cafodd waeledd hir a phoenus wedi hynny, ond daliodd drwy'r cwbl yn llawen a ffyddiog yn Nuw. Ar ei wely angau adolygodd Socialism and Strikes, a ysgrifenasai fel ffrwyth blynyddoedd o waith ym meysydd Llafur. Credai fod moddion y streic yn y pen draw mor aneffeithiol à moddion rhyfel, oherwydd ei fod yn hawlio cyfiawnder ag un llaw, ac yn bygwth gwneuthur colled a cham ar y llaw arall; felly yr oedd ofn a rhagfarn a rhyfel dosbarth a rhyfel cartref i'w ddisgwyl. Credai y dylai'r werin fynd i'r maes yn hollol ddiarfau, ond â gwir a chyfiawnder ei chwyn, hyd oni fegid cydwybod yn y farn gyhoeddus. Dengys ei lyfr The Meaning of Socialism ddelfrydau uchaf y Sosialaeth ysbrydol, ac erys yn gofgolofn i arloeswr gwrol ac ysbrydol ryw ddydd, wedi i'r werin gael ei darbwyllo o fethiant y nerth a'r llu gwleidyddol. Cofiaf ymgom â Ramsay Macdonald, pan oedd yn Brif Weinidog, am yr hyn a adroddais o gyffes ffydd Bruce