Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fygythiol; ond cefais wrandawiad astud ac yr oedd ambell filwr yn estyn ei law ac yn gwasgu'n gynnes wrth i mi ymwthio wedyn trwy'r dorf. Felly euthum o bentref i bentref trwy Lŷn am wythnos, ac er fy syndod, cefais fod gwerin gwlad yn teimlo'r un gofid à minnau am gyfiawnder ffordd rhyfel, a chefais fwy o groeso nag o fygythiadau.

Yn Aberdaron, wedi i mi annerch y pentrefwyr oddi ar risiau'r hen Gegin Fawr, daeth gŵr o Sais ymlaen gan ddywedyd yn awdurdodol, "I am the A.D.C. to the G.O.C. Western Command. I'll have you in clink for this." Euthum gydag ef i'r Hotel a chymerodd fy enw; eglurais wrtho, os oedd yn ddyletswydd arno fy nghyhuddo o dan y "King's Regulations," pob peth yn dda, ond fod gennyf finnau hefyd fy Mrenin a gorchymynion Crist. Tawelodd gryn dipyn yn yr ymgom ac ni chlywais ddim ymhellach. Ond wedi dychwelyd i'r awyr agored gwelais ddyrnaid o'm hen gyfeillion—Huw Felin, Wil Gegin ac craill—wedi casglu a chynhyrfu ac yn bygwth rhoi y Sais dros ei ben yn yr afon. Bu raid i mi egluro yn daer wrthynt y byddai hynny'n groes i'm holl syniadau; ond ni allwn beidio â theimlo'n gynnes atynt am eu hawydd amddiffynnol.

Y LLYSOEDD BARN

Wedi dychwelyd i'r ffarm o'm taith drwy Lŷn, wele lythyr oddi wrth Lywydd y Prif Lys, yr Ardalydd Salisbury, yn fy ngwahodd i ymweled ag ef i egluro fy mhenderfyniad i bregethu heddwch. Ar y ffordd i Lundain euthum i Lan- drindod i gynhadledd o heddychwyr Cymru, ond ni, chafodd na Puleston na minnau ddweud gair gan floeddiadau'r gynulleidfa barchus a lanwai'r capel. Gan yr Arglwydd Salisbury cefais y cwrteisi mwyaf a thynerwch tadol ac ymgom fynwesol. Enwodd Epistol Pawl at Philemon yn anfon ei gyfaill Onesimus yn ôl ato i gaethwasiaeth i egluro pwysigrwydd ufuddhau i ddeddf y wlad. Atebais innau nad oedd gennyf wrthwynebiad yn y byd i waith fferm ond ei fod yn bwysicach i ufuddhau i Dduw nag i ddynion. Cymhellodd fi o'r diwedd i apelio eto i'r llys am ryddid i'm cenhadaeth. Gwneuthum hynny ar y sail bod Brenin ac