Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Eglwys yn ddiweddar wedi cymell "cenhadaeth o edifeirwch i'r genedl, a'm bod innau eisoes yn dechrau edifarhau o ffordd gelyniaeth ac anufudd-dod, ac yn ceisio gan ddynion gymod â Duw ac â dyn. Bûm wedyn am ddwyawr ger bron y llys yn dweud fy mhrofiad ac yn ateb cwestiynau teg a chwrtais. Gofynnwyd i mi ai gwleidyddol neu ynteu crefyddol oedd fy nghenadwri; atebais innau mai crefyddol ydoedd yn ei hanfod, ond fod ganddi ganlyniadau gwleidyddol anocheladwy. O'r diwedd, gohiriwyd yr achos nes byddai'r holl lys yn bresennol. Clywais wedyn i'r achos gael ei gyflwyno i'r Cabinet Rhyfel, a bod Arglwydd Milner, yr hen filitarwr gynt yn rhyfel De Affrica, o blaid, a Lloyd George yn erbyn, cydnabod rhyddid llwyr i gydwybod. Felly, mewn amser, daeth fy rhyddid i ben. Gwyswyd fi yn hynod o garedig gan hen sergeant y plismyn ym Methesda i'r llys ym Mangor. Rhyfedd ydoedd gweled Ustus o glerigwr yn cydweled i'm cyflwyno i'r fyddin, a'r hen wleidyddwr, y Barnwr Bryn Roberts, yn gwrthod eistedd ar yr achos, ac wedi'r praw yn myned a mi yn ei fraich i gael cinio mewn gwesty. Yn y Swyddfa Filwrol yn Wrecsam cefais groeso a chwrteisrwydd gan y prif swyddogion a hen gydnabod milwrol. Wedi fy ngharcharu am fis yn y guardroom yn y barracks, cefais gwmni annisgwyl y Parchedigion E. K. Jones a Wyre Lewis pan ar fy mhrawf ger bron y Llys Milwrol; gan y Llys Milwrol cefais ddwy flynedd o lafur caled. Y pethau olaf a gofiaf, wrth ymadael o'r barracks am Wormwood Scrubbs ydoedd cwrteisrwydd yr hen gyrnol, a charedigrwydd y sergeant yn rhoi i mi deisen a bobwyd imi gan ei wraig cyn imi ddiflannu i gysgod carchardai a gwersyll am yn agos i ddwy flynedd.

DAN Y DDEDDF

Ysgydwyd fy llaw yn gynnes gan ddau filwr yr osgordd a ddaeth gyda mi o Wrecsam at ddrws carchar Wormwood Scrubbs, a dymunent Iwc dda i mi yn galonnog. Wedi agor y naill ddrws haearn ar ôl y llall gan un o'r ceidwaid, a rhes o allweddau yn rhwym wrth ei wregys, a gweled yr adeilad anferth, mentrais ddweud wrtho, "Y mae'n lle mawr iawn."