Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyfarthodd yn ôl, "Caewch eich ceg." Gwthiodd fi i gell wag, a bûm yno am awr neu fwy, nes archwyd fi i ystafell arall i'm dadwisgo, a'm golchi, a'm gwisgo yn nillad y confict, gyda marciau'r broad arrow drosti, a hosannau na buasent erioed yn efeilliaid, ac esgidiau a wisgwyd o'r blaen gan lawer hen bererin; yna fe'm harweiniwyd i'm celi fy hun. Y rhybudd cyntaf ar gerdyn Rheolau'r Carchar ydoedd y gair "Distawrwydd"; am ryw reswm neu gilydd gorfodid carcharorion, am y pythefnos cyntaf o'u carchariad, gysgu ar blanciau moel. Wedi cysgu, clywais yn gynnar yn y bore sŵn clychau, a chodais i ddisgwyl gorchymyn. Agorwyd drws y gell led modfedd a chlywais sŵn traed oddi allan. Wedi chwarter awr o ddisgwyl, agorwyd y drws gan geidwad, a gyfarthodd yn y modd mwyaf bygythiol, "Ewch ar eich gliniau, sgwriwch y llawr." Gwneuthum yn ôl ei arch, ond clywn y gwaed yn curo yn fy nhalcen gan y sarhad a'r bygythio direswm. Yna cofiais lythyr a gelais oddi wrth fy mrawd oedd yn gapten yn y fyddin, "Fe'ch temtir gan sarhad swyddogion byddin a charchar, i 'ddicter cyfiawn'; gwyliwch rhag hynny yn fwy na'r diafol. Ceisiwch gael hyd i'r 'dyn' sydd ym mhob swyddog; buasai'n well gennyf golli popeth nag i chwi golli eich ffydd." Ond, meddyliwn na ddylasai dyn gael sarhau eraill fel hyn, a'u bygwth heb achos. Modd bynnag, pan ddaeth y ceidwad 'drachefn, yn brygowtha ac yn bygwth, dywedais wrtho yn dawel, "Os mynnwch i mi wneud rhywbeth, eglurwch hynny, a mi a'i gwnaf o galon; ond yn sicr chwi gewch fwy allan o ddynion trwy gwrteisrwydd a charedigrwydd na thrwy fygythiadau fel hyn." Agorodd ei enau mewn syndod, a meddyliais ei fod am fy llyncu'n fyw, ond atebodd yn eithaf siful, "Wel, os na fydd pethau yn cael eu gwneud yn iawn, caf finnau fy meio gan y Prif Geidwad." Felly deallais fod "Meistr ar Feistr Mostyn" yma fel mewn mannau eraill, ac o hynny allan ymddygodd yn eithaf cwrtais. Drwg carchar Wormwood Scrubbs oedd ei berffeithrwydd fel cyfundrefn beiriannol; yr oedd dan arolygiaeth hen gyrnol milwrol oedd mor llym gyda'r ceidwaid nes codi ofn nerfus arnynt drwy'r carchar. Pan fyddem yn cerdded am awr o ymarferiad bob dydd yn iard y carchar gosodid dau neu dri o'r ceidwaid ar