Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ben pileri bychain i'n gwylied rhag i ni sibrwd gair wrth ein gilydd. Golwg ddwl a sur oedd ar wyneb y rhan fwyaf o'r carcharorion, ond gwelais un â gwên siriol ar ei wyneb yn wastad; llwyddais i gael gair ag ef yn nhŷ'r baddon ryw brynhawn. Cymro o Gorseinion ydoedd, wedi ei "achub gan ras" fel yr eglurai, ac yn gyfaill i Evan Roberts. Daethom yn gyfeillion cynnes wedi hynny, ac yr oedd ei wên siriol fel drych yn adlewyrchu pethau gwell na'n cyflwr presennol. Cefais ymweliad cysurlawn unwaith yno gan y Parch. Peter Hughes Griffiths. Cyn ymadael am garchar arall gofynnais am gael gweled y Llywodraethwr. Dywedais wrtho fy mod yn teimlo ei bod yn ddyletswydd arnaf i'w atgofio bod car- chariad ynddo'i hun yn gosb ddigonol, ac nad oedd na deddf na gras yn bwriadu cosb bellach o fygythiadau a sarhad gan y swyddogion. Atebodd fod gennyf hawl i gyhuddo unrhyw geidwad am annynoliaeth. Dywedais innau na fynaswn gyhuddo neb, ond fod y ceidwaid hwythau hefyd yn byw dan ofn cerydd, a bod y cwbl yn gwenwyno ysbryd y carchar ac yn peri poen a phoenedigaeth nerfus i gannoedd. Dywedais wrtho am fy anturiaeth innau gyda'r troseddwyr a gyflwynwyd i ni gan Syr Edward Clarke Hall. Ni laciodd yn ei olwg galed, ond sylwais fod yr Is-lywodraethwr yn gwrando'n astud, a gwenodd yn siriol arnaf pan euthum allan.

Yng Ngharchar Knutsford gwelais wedd arall ar bethau. Y cynllun yno ydoedd gwersyll gwaith gyda rhyddid i ymddiddan, a rheolaeth a threfn, a hawl i fyned allan i'r dref wedi gorffen oriau'r gwaith. Yr oedd yr amrywiaeth fwyaf ymhlith y carcharorion—Iddewon, Pabyddion ac aelodau o bob enwad a phlaid. Ni wyddwn o'r blaen mor lluosog ydoedd y sectau crefyddol a gwleidyddol. Yr oedd yr I.B.S.A. (Tystion Jehofah) a'r Plymouth Brothers yn dadlau'n ffyrnig am ystyr llythyren yn yr un Beibl; y gwŷr Pentecostal yn ymgreinio ac yn siarad mewn tafodau dieithr mewn ystafell ar wahan; y Seventh Day Adventists yn gwrthod rhyfela ar y Saboth ac yn credu mai cyfeiliornad sylfaenol yr Eglwys ydoedd cadw'r dydd cyntaf, yn lle'r seithfed dydd o'r wythnos, fel Saboth. Gwelais Nazareaid, Iddewig a Christionedig, a ddaliasant yn llythrennol, mewn gair a gweithred, at y