gorchymyn i beidio â thorri gwallt na barf. Chwarddwyd am bennau'r sectau hyn gan wyr y pleidiau Sosialaidd Marxaidd; ond yr oeddynt hwythau hefyd yn llawn sectau. Ym- osodwyd ar yr I.L.P. gan yr S.L.P. a'r S.P.G.B., ac ar y ddau gan y Comiwnyddion, ac ar y cwbl gan yr Anarchistiaid, na ddioddefent neb i fod yn farnwr nac yn rhannwr arnynt. Darbwyllwyd dyn dipyn gan y profiad hwn rhag credu y cawsid na chyfiawnder na heddwch wrth wisgo label plaid a sect, ac wrth esgymuno'r sectau eraill.
Cynhaliai'r Crynwyr eu cyfarfodydd mewn distawrwydd, gyda rhyddid seiat i bawb ddweud eu barn a'u profiad, ac yr oedd eu cyrddau fel ynysoedd tangnefedd yn y berw. Sylwais fod rhyw debygrwydd meddwl rhwng llawer o'r Comiwnyddion a'r Ail-ddyfodiaid, yn eu hannioddefgarwch, a'u gwrthwynebiad i unrhyw ymdrech i wella pethau yn awr; yr oedd y naill yn gobeithio am chwyldro y Deg Lleng o angylion yn yr awyr, a'r llall am chwyldro y deg lleng o'r Fyddin Goch ar y ddaear; ond trais a grym oedd moddion y ddau yn y pen draw.
Cofiaf Iddew ieuanc disglair, Isidore Berkov, a eisteddai wrth fy mwrdd. Cynhyrfwyd ef un bore gan bellebr, a dangosodd ef i mi. "Cedwch at y busnes crefyddol er mwyn yr hen bobl. Minnie." Dyna ocdd y neges. Eglurodd i mi fod ei rieni yn Nasareaid selog, a'i daid yn Rabbi enwog yn Rwsia! "Disgwyliant i mi adael i'm barf dyfu, gwisgo phylacterau, a gweddïo at y dwyrain sawl gwaith yn y dydd. Ond fel ffaith, agnostig wyf, ac yn cyfrif y cwbl yn ofergoeledd, ond pa beth a wnaf; yr wyf yn caru fy rhieni, ac yn gofidio rhoddi poen iddynt. Pa beth a wnaf ond dweud celwydd i'w cysuro?"
Gofynnais iddo onid oedd yn bosibl iddo ddweud wrthynt ei fod yn parchu pethau trymion y gyfraith, sef "gwneuthur cyfiawnder a hoffi trugaredd," a rhoddais iddo stori Tolstoi, "Lie bo cariad yno y mae Duw hefyd." Ysgydwai ei ben. "Ni ddeallwch draddodiad yr Iddewon uniongred; ofer hollol yw sôn am bethau o'r fath ar draul cadw at lythyren y Ddeddf." Ymhen misoedd wedi hynny, cefais lythyr caredig oddi wrtho yn adrodd ei fod wedi meddwl llawer am stori Tolstoi a'i fod yn arferiad gan yr Iddewon alw'n