Tudalen:Pererindod Heddwch.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Rabbi" y gŵr a ddysgai iddynt wirionedd newydd, "Felly terfynaf fy llythyr, 'Rabbi, Shalom'."

Yng Ngharchar Dartmoor fe ddywedwyd fod dros hanner cant o sectau ac o bleidiau wedi eu cofrestru ymhlith y mil o Wrthwynebwyr Cydwybodol a oedd yno. Cafwyd rhyw fath ar undeb yn erbyn y Llywodraeth, a chydweithrediad digonol i ddarpar bwyd a chadw trefn, ond fawr ymhellach. Torrwyd yr United Front, a fygythiodd streic oherwydd rhyw gam, gan y gwahaniaethau; bellach blinodd y mwyafrif ar ddadleuon gwleidyddol ac egwyddorion cyffredinol, a dechreuasant gyfeillachu'n bersonol, ar draws ffiniau plaid ac enwad, mewn modd rhyfedd iawn. Man dedwyddaf a dwysaf Dartmoor i mi oedd gardd y carchar ar ganol y rhosydd mawnog, lle claddwyd y carcharorion o Ffrainc ac America a fu farw yno yn yr hen ryfeloedd. Maddeuwyd bai y gelyn ers llawer blwyddyn, a chodwyd ar y lawnt werdd gofgolofn iddynt gyda'r geiriau Dulce et decorum est pro patria mori[1]. Eisteddais yno lawer tro, wrth fachlud haul, i fyfyrio troad rhod teyrnasoedd y daear, y rhyfeloedd a'r sôn am ryfeloedd, a diwedd dial dyn ar ddyn.

Un o'r pethau mwyaf dynol a duwiol a welais yn nhrefn y carchardai oedd y caniatad i hen droseddwr gadw llygod mawr fel pets. Gwelais hwynt lawer tro yn yr iard yn chwarae wrth draed hen droseddwr, ac, ar chwibaniad, yn rhedeg i fyny ar hyd-ddo ac i'w lloches yn ei boced. Cofiaf geidwad yn Dartmoor yn adrodd fel y bu i hen gonfict, oedd yno am ei oes, ddod â'i lygoden yn ei boced i'w waith ar y rhosdir. Yr oeddynt yn torri ffos; tynnodd y troseddwr ei gôt, a gosododd hi ar ochr y ffos; ond wrth godi carreg fawr fe gwympodd rywsut ar ei gôt; edrychodd mewn braw am ei lygoden, a chafodd hi wedi ei lladd. Eisteddodd ac wylodd fel plentyn—wedi colli'r unig greadur a'i hoffodd ac a ymddiriedodd ynddo. Pwy, yn wir, a ddiystyro "ddydd y pethau bychain" a gymero Duw i gadw tosturi a thynerwch yn fyw yng nghalon dyn? Yng Ngharchar Birmingham yr oedd yn y gell nesaf hen filwr a ddysgodd imi greffi Morse Code y carcharorion i siarad â'i gilydd, trwy guro ar y parwydydd. Euthum yn ddeheuig iawn ar y grefft. Clywais ganddo ei fod wedi ei glwyfo ddwywaith yn y rhyfel a'i

  1. Melys a theg yw marw dros eich gwlad