wenwyno gan nwy. Felly cafodd le fel cogydd mewn gwersyll milwrol gartref. Dywedodd ei fod wedi yfed dau lasiad o gwrw yn y cantîn rywdro, ac oherwydd effaith y nwy, fe feddwodd; fe'i cafodd ei hun bore drannoeth yn y Guard Room am ei fod wedi taro'r corporal. Eglurodd wrth y sergeant major na wyddai ddim amdano, ac nad oedd ganddo yr un gweryl â'r corporal. Gwenodd y sergeant major a dywedodd, "Deudwch y cwbl, a chwi gewch ryw saith niwrnod o C.B." Pan wysiwyd ef gerbron y Llys Milwrol, dywedodd ei stori yn hyderus ddigon, ond brawychwyd ef pan ddarllenwyd y ddedfryd, "Deunaw mis o lafur caled!" "Os daw rhyfel eto," meddai, "ar ochr y German yr ymladdaf."
Y peth a'm blinodd fwyaf yno oedd gwasanaeth crefyddol y carchar. Hyrddiwyd ni yn gannoedd i'r capel, clowyd y drysau, ac eisteddai'r swyddogion ar gadeiriau uchel yma ac acw, i'n hwynebu a'n gwylio rhag i ni sibrwd gair wrth ein gilydd. Oer a diystyr oedd y cyfarchiad "Annwyl gariadus frodyr" dan y fath amgylchiadau, a'r rhigl-wasanaeth ffurfiol. Methais gael heddwch calon, a phenderfynais wneuthur gwrthdystiad yn erbyn y fath lygriad o "wasanaeth grefyddol" a gwneuthur tystiolaeth i'r gwir. Ond euthum mor nerfus yng ngwasanaeth y bore nes methu cael anadl na nerth i siarad, a thynnu'r lle ar fy mhen, a chael fy nghyfrif yn granc neu yn wallgof. Ond yng ngwasanaeth y prynhawn, mewn ysbaid o ddistawrwydd, medrais ddweud yn glyw- adwy, "Cofiwch, frodyr, fod Crist yn gofyn i ni faddau a thosturio wrth ein gilydd, ac nid i gosbi a charcharu ein gilydd." Bu syndod drwy'r lle, ond teimlais ollyngdod calon, a chlywais y carcharorion yn ail-adrodd fy ngeiriau wrth ei gilydd drwy'r ffenestri. Yn y bore archwiliwyd fi gan y meddyg, a chyhuddwyd fi ger bron y Llywodraethwr.
"A oes gennych rywbeth i'w ddweud?" meddai.
Atebais, "Dim, ond ei fod yn wir."
"Does a wnelo hyn ddim â'r mater; chwi allasech godi cynnwrf drwy'r carchar."
Yna dedfrydodd fi i gell y gosb, ac i'm cadw bellach rhag myned i gapel, nac i ymarferiad yn iard y carchar. Cell y gosb oedd y lle isaf yn y carchar—lle tywyll ac oer. Bara a